Claf canser methu gadael ei fflat ers i lifft dorri

Mike Constable, sydd wedi colli ei ddwy goes, mewn cadair olwyn yn ei stafell fywFfynhonnell y llun, Allison Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike Constable mewn cadair olwyn ar ôl colli ei ddwy goes

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Benarth yn gaeth yn ei fflat ac wedi colli triniaeth ar gyfer canser am ei fod methu â gadael yr adeilad gan fod lifft wedi torri.

Mae saith wythnos wedi mynd heibio ers i'r lifft beidio gweithio yn y fflatiau ar gyfer pobl wedi ymddeol, yn Cwrt Jubilee ar Heol Plymouth.

Gan ei fod wedi colli ei ddwy goes, mae Mike Constable yn dibynnu'n llwyr ar y lifft i fynd a dod o'i gartref.

Mae'r cwmni rheoli eiddo sy'n gyfrifol am y fflatiau wedi ymddiheuro am drafferthion sydd wedi eu hachosi ac yn dweud y bydd contractwr yn ceisio datrys y broblem wythnos nesaf.

'Methu mynd i unlle'

Dywed Mr Constable, sy'n byw gyda'i wraig mewn fflat ar ail lawr yr adeilad: "Mae wedi bod yn ofnadwy.

"Rwy' methu mynd i unlle. Rwy'n stuck."

Dywedodd bod y lifft "wedi torri o'r blaen ond dim ond am ychydig ddyddiau".

Arwyddion yn rhybuddio bod y lifft wedi torri / Un o risiau'r adeiladFfynhonnell y llun, Allison Jones
Disgrifiad o’r llun,

Tra bo'r lifft wedi torri mae'n rhaid i breswylwyr ddefnyddio'r grisiau - rhywbeth sy'n amhosib i Mike Constable yn ei gadair olwyn

Canser y bledren sydd ar Mr Constable ac mae angen triniaeth bob chwech mis.

Bu'n rhaid iddo aildrefnu apwyntiad gan ei fod methu gadael ei fflat.

"Wnes i siarad gyda fy meddyg dros y ffôn a dywedodd yntau wrth y tîm pam na allwn i gadw'r apwyntiad," dywedodd.

"Wnaethon nhw ddweud wrtha'i i gysylltu gyda'r gwasanaeth ambiwlans.

"Wnes i hynny ac maen nhw wedi trefnu i fy nghario i lawr ddydd Gwener."

'Anghredadwy'

Dywedodd ei fab, Richard John Constable: "Dyw e ddim yn ddigon da.

"O ystyried y ffioedd mae fy rhieni yn talu, mae hyn yn anghredadwy.

"Rwy'n synnu bod fy nhad heb fynd o'i go' yn sownd yn y fflat yna."

Tu blaen Cwrt Jubilee, Penaeth - adeilad brics coch tri llawr ac mae sgaffaldiau wrth rhan o'r adeiladFfynhonnell y llun, Allison Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae fflat Mike Constable a'i wraig ar ail lawr Cwrt Jubilee

Dywedodd ei ferch, Allison Jones: "Mae'r ystafell olchi dillad ar y llawr gwaelod felly mae fy rhieni'n gorfod cario'u golch i fyny ac i lawr y grisiau i gael dillad glân.

"Roedd y lle'n arfer bod yn fan cymdeithasol i'r preswylwyr a nawr maen nhw wedi eu hynysu.

"O leiaf ddwywaith yr wythnos bydden nhw'n cael prynhawniau coffi yn y lolfa.

"Mae honno'n wag ers i'r lifft stopio gweithio."

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni sy'n rheoli'r adeilad, First Point bod peiriannydd lifft "wedi cwblhau gwaith atgyweirio mawr yn ddiweddar" gan gynnwys adfer ac ailosod motor.

"Er taw adfer y lifft yn llwyr oedd bwriad y gwaith hwnnw, fe amlygodd archwiliad pellach ragor o broblemau.

"Rydym yn gweithio'n agos â'r contractwr lifft i ddatrys rheiny cyngynted â phosib a bydd peiriannydd yna wythnos nesaf i wneud y gwaith angenrheidiol.

"Mae'n ddrwg gennym am y tarfu am nad yw'r lifft ar gael ac rydym yn deall pa mor rhwystredig ac anghyfleus yw hyn i breswylwyr.

"Mae ein tîm yn y safle yn dal yna i helpu gyda symud trwy'r adeilad - gan gynnwys llefydd cadw offer symud a ffyrdd cyrraedd a gadael gwahanol.

"Mae rheolwr datblygu hefyd yn dal ar gael i roi cymorth ychwanegol."