Perthyn: Prosiect sy'n dathlu hanes Cymry-Eidalaidd y Cymoedd

- Cyhoeddwyd
Yn ôl y sôn mae dros 40,000 o Gymry-Eidalaidd yn byw yng Nghymru heddiw. Mae ffigyrau amlwg mewn sawl maes gyda'u gwreiddiau teuluol yn y wlad Mediteranaidd - gan gynnwys y bocswyr Joe Calzaghe ac Enzo Maccarinelli, y chwaraewyr rygbi Peter a Robert Sidoli, a James Ratti, y cerddor Pino Palladino a'r Aelod Seneddol, Tonia Antoniazzi.
Mae'r cyfansoddwr a'r artist John Meirion Rea yn dweud ei fod yn teimlo'n Gymro, gant y cant, ond ei fod hefyd yn ymwybodol o'i deulu Eidalaidd - mae ei gyfenw'n tystio i hyn.
Daeth hen-daid John, Emiddio Rea, i Gymru o ardal Frosinone, rhwng Rhufain a Napoli, ac mae ei ddisgynyddion yma hyd heddiw.
Mae Perthyn yn osodwaith ymdrochol diweddar gan John, sy'n archwilio hanes a straeon y gymuned Gymreig-Eidalaidd yn ne Cymru. Yma mae'n siarad â Cymru Fyw am y prosiect, a'r hyn a ddysgodd.

Y teulu Rea, a'u gwreiddiau ym mhentref Arpino yn ardal Frosinone
"Oedd 'na dipyn o ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect yma", meddai John, "y pwynt cyntaf oedd fy nghysylltiadau Eidalaidd ar ochr fy nhad.
"O'n i am edrych ar bwysigrwydd y mewnfudiad o'r Eidal i Gymru ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, a sut wnaeth hynny siapio'r bywyd cymdeithasol yn y Cymoedd.
"'Nath y gymuned ymgartrefu yng Nghymru ac mae'n fodel o sut wnaeth yr Eidalwyr gael eu derbyn a chymysgu – roedden nhw'n integreiddio ond hefyd cadw'r ymdeimlad 'ma o fod yn Eidalwyr hefyd."
Mae cysylltiadau Cymru gyda Bardi yn ardal Emilia-Romagna'n eitha' adnabyddus, mae llawer iawn o'r Cymry-Eidalaidd yn gallu olrhain eu hanes i'r pentref yna. Ond mae John hefyd yn credu bod hi'n bwysig nodi cysylltiadau Cymru gydag ardaloedd eraill o'r Eidal.

John yn gafael mewn llun o'i hen-daid, Emiddio Rea
"Un o'r rhesymau 'nes i ddechrau'r prosiect oedd 'nath yr Eisteddfod ofyn imi wneud sgwrs ym Mhontypridd y llynedd. 'Nes i gyflwyniad ym mhabell Encore – o'dd e'n llawn dop, achos dwi'n meddwl bod y stori ma'n bwysig i lawer o bobl.
"Roedd fy ewythr yn heneiddio, ac o'n i'n sylwi mai fe oedd y cyswllt olaf oedd gen i gyda fy hen-daid, a ddaeth draw yma. Aeth e i Lundain i ddechrau, yn chwarae'r barrel organ a gwerthu chestnuts. Roedd llynedd hefyd yn nodi 20 mlynedd ers imi golli fy nhad, ac roedd y ddau beth yna'n ddigon o ysgogiad."
Ar gyfer y prosiect fe gyfunodd John wahanol elfennau i gyflwyno'r gwaith mewn ffyrdd gweledol a chlywedol.
"Mae 'na elfen gymunedol, sef ffilm sy'n defnyddio sain a seinweddau'r gymuned yn hanesyddol, nes i recordio hen barrel piano o 1890 o amgueddfa offerynnol yn Llundain – offeryn byse'n hen-daid wedi ei chwarae ar strydoedd Llundain. Gen i hefyd recordiad o Gôr Meibion Treorci'n canu anthem Yr Eidal."

Hen-ewythr John, Gionbattista (Bert) Rea, ar ei feic modyr gelato yn Nhonypandy
"Mae'r ffilm yn abstract iawn efo delweddau ymdrochol, yn creu siwrne myfyrdod yn hytrach na rhywbeth dogfennol.
"Er, mae 'na elfennau yna'n plethu'r lleisiau efo delweddau, shots o goffi... ond dyw e ddim am y coffi yn uniongyrchol, ond yn hytrach beth mae'r coffi'n ei gynrychioli."
Dangoswyd y ffilm ym Mhontypridd yn ddiweddar, ond mae John wedi cadw cofnod o bob dim ar ei wefan perthyncymru.com, dolen allanol.
"Mae'r gwaith yma'n aros lan ar-lein ac mae fel cofeb i'r gymuned, ac mae'n rhan o gyfres o weithiau dwi wedi gwneud yn edrych ar gymunedau yng Nghymru.
"Mae'r broses o wneud y gwaith ma'n helpu fi ddysgu sut dwi'n teimlo am hunaniaeth hefyd, a dwi'n cwrdd â phobl ddiddorol iawn sydd â straeon anhygoel, sydd 'di ymgartrefu yng Nghymru."

Un o hen gaffis Eidalaidd y Cymoedd, Station Cafe yn Nhreorci
Felly, beth ddysgodd John wrth wneud y prosiect yma? Ac a gafodd ei synnu gan rywbeth?
"Beth 'nes i ddarganfod oedd cymuned glos a rhyw frequencies gwahanol o berthyn a sut oedden nhw'n gweld eu hunain yn yr hanes o bwy bynnag ddoth draw, boed nhw'n bedwaredd genhedlaeth ers y mewnfudiad neu newydd gyrraedd. Maen nhw'n Gymry, nid ond Eidalaidd – yn Gymry-Eidalaidd, ac mae'r gymuned yn unigryw i Gymru.
"'Nathon nhw drawsnewid y byd cymdeithasol yn ne Cymru, a gweithio'n galed iawn i ddod yn rhan o'r cymunedau a bod yn llwyddiannus. Nid symud yma i gymryd nathon nhw ond i roi rhywbeth yn ôl, ac 'nath sawl person dweud hynny wrtha i tra o'n i'n gwneud y prosiect."

Eddie, tad John, yn un o gaffis y Cymoedd
"'Nes i ddysgu lot am stori fy nheulu i, gan gyfarfod aelodau eraill o'r teulu Rea, gan gynnwys fy ail gyfnither.
"Felly, o'n i'n edrych yn ôl yn bersonol, a hefyd yn fwy eang ar y themâu oedd yn tyfu allan o beth oedd yn cael ei ddweud a sut i gyfleu hwnna mewn myfyrdod.
"Yn y casgliadau o bortreadau ar y safle we mae dros 30 o straeon unigol gen i, ynghyd â ffilm, ac os edrychwch chi arnyn nhw yn eu cyfanrwydd mae 'na ryw deimlad o gymuned yn ymddangos."

Cafodd John sgwrs gydag un o'i deulu, ei ail-gyfnither Larraine Gilbert (Rea gynt), ar gyfer y prosiect
"Dwi'n meddwl 'nath yr Eidalwyr gynnig beth maen nhw'n ei alw'n third place, ble mae pobl yn mynd i gwrdd, nid yn y dafarn neu'r capel, neu'r clwb rygbi, ond yn y caffi, ble roedd pobl yn mynd i eistedd am oriau a chael cappuccino bach.
"'Nath hyn drawsnewid y byd cymdeithasol yno i ddweud y gwir, a'r hufen iâ wrth gwrs!
"Doth nhw â cherddoriaeth wahanol, yr acordion ac ati, ac roedd y corau meibion a'r bandiau pres ma'n chwarae addasiadau o operâu Eidalaidd, fel Verdi a Puccini."
Mae dylanwad yr Eidalwyr a ymfudodd i Gymru'n bellgyrhaeddol hyd heddiw, yn y cyfenwau, yr hufen iâ, y caffis, y siopau chips, y gerddoriaeth a'r ysbryd cymunedol, ac mae casgliad John yn gofnod i'r holl beth.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2018