Rhybudd am stormydd o daranau ledled Cymru

Daeth y rhybudd i rym am 12:00 brynhawn Llun
- Cyhoeddwyd
Wedi cyfnod hir o dywydd sych a braf, mae disgwyl stormydd a chawodydd gwasgaredig ar draws Cymru ddydd Llun.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau, sydd mewn grym rhwng 12:00 a 22:00.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r tywydd garw achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr mewn mannau.
Fe all rhwng 20-30mm o law ddisgyn mewn cyfnodau cymharol fyr, tra bod rhwng 40-50mm yn bosib mewn rhai mannau.
Mae mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion hefyd yn bosib, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i bob sir yng Nghymru.