Gareth Jones: Cofio'r 'newyddiadurwr dewr'

Roedd gan Gareth Jones awch ei deithio ers ei blentyndod, yn gwylio llongau'n hwylio o ddoc Y BarriFfynhonnell y llun, Gareth Vaughan Jones Estate
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Gareth Jones awch ei deithio ers ei blentyndod, yn gwylio llongau'n hwylio o ddoc Y Barri

  • Cyhoeddwyd

Gareth Jones, a fagwyd yn Y Barri, oedd un o newyddiadurwyr mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif.

Bu farw'n ŵr ifanc, 30 mlwydd oed, ond er mai byr oedd ei fywyd, mae ei gyfraniad yn hirhoedlog.

Roedd yn un o'r newyddiadurwyr gorllewinol cyntaf i adrodd am Newyn Mawr 1932-33 yn Wcráin, sef yr Holodomor, mewn papurau newydd fel The New York Evening Post, Chicago Daily News, The London Evening Standard, a'r Manchester Guardian.

'Nôl yn 2017 fe wnaeth BBC Cymru Fyw gyfweld â'i or-nai, y diweddar Nigel Colley a ddisgrifiodd hanes ei sgŵp fel "stori tylwyth teg, daioni yn erbyn drwg, Dafydd yn erbyn Goliath".

 hithau'n 90 mlynedd ers marwolaeth Gareth Jones ym mis Awst 1935, dyma gyfle arall i ddod i adnabod Gareth Jones trwy lygaid ei or-nai a sylfaenydd gwefan Garethjones.org.

Bu farw Nigel Colley yn 2018, ond mae teulu Gareth Jones yn cadw enw a chyfraniad y newyddiadurwr o'r Barri'n fyw o hyd.

'Sgŵp rhyfeddol'

Yn ôl Mr Colley roedd yn "sgŵp rhyfeddol" - "sawl erthygl papur newydd sy'n cael eu trafod dros 80 mlynedd yn ddiweddarach?"

Ychwanegodd, "hyd yn oed wyth degawd ar ôl datgeliad Gareth o'r Holodomor, mae'n cael ei ddyfynnu mewn perthynas â'r trafferthion ar hyn o bryd allan yn nwyrain Wcráin".

Oherwydd bod Stalin mor benderfynol o weithredu ei Fesur Pum Mlynedd roedd yna newyn mawr yn Wcráin. Bu farw rhwng pump a 10 miliwn o boblogaeth y wlad rhwng 1932 a 1933.

Roedd Gareth, a gafodd ei fagu yn Y Barri, yn benderfynol pan ymwelodd â'r wlad i addysgu'r byd o'r hyn oedd yn digwydd yno.

Yn ôl Mr Colley, mae'n debyg bod ei diddordeb yn y wlad a'r iaith wedi ei ysgogi gan ei fam, Annie Gwen Jones. Roedd hi wedi gweithio am dair blynedd yn Wcráin i deulu John Hughes, sylfaenydd dinas Hughesovka.

Cafodd Gareth ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a Choleg y Drindod Caergrawnt lle'r oedd yn fyfyriwr ieithoedd disglair. Dysgodd Rwsieg cyn mynd allan i Wcráin.

Yno daeth wyneb yn wyneb ag amgylchiadau trychinebus ac yn 1933, ar ei drydydd ymweliad, penderfynodd ysgrifennu cyfres o erthyglau i amlygu'r hyn oedd yn mynd ymlaen yno.

Erthygl Gareth yn y London Evening Standard, Mawrth 31, 1933, o'i lyfr lloffion ei hunFfynhonnell y llun, Gareth Vaughan Jones Estate
Disgrifiad o’r llun,

Erthygl Gareth yn y London Evening Standard, Mawrth 31, 1933, o'i lyfr lloffion ei hun

Llythyr Gareth Jones at y cyn Brif Weinidog David Lloyd George o Berlin ar 27 Mawrth, 1933 yn dweud wrtho bod newyn yn yr Undeb Sofietaidd. Yn y llythyr, dywedodd: “The situation is so grave, so much worse than in 1921 that I am amazed at your admiration for Stalin.”Ffynhonnell y llun, Archifau Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Llythyr Gareth Jones at y cyn Brif Weinidog David Lloyd George o Berlin ar 27 Mawrth, 1933 yn dweud wrtho bod newyn yn yr Undeb Sofietaidd. Yn y llythyr, dywedodd: "The situation is so grave, so much worse than in 1921 that I am amazed at your admiration for Stalin."

'Risg'

Dywedodd ei or-nai, "roedd yn ddewr, yn gwybod ei fod yn cymryd risg. Roedd yn glyfar wrth ddweud pethe braf mewn cardiau post adref - a oedd, fe wyddai, yn cael eu darllen gan swyddogion yn y wlad, ond yn cofnodi'r gwir yn ei ddyddiaduron".

Cafodd nifer o'i erthyglau, oedd yn ceisio datgelu troseddau'r Bolshevik yn erbyn dynoliaeth, eu hatal ac fe gafodd ei ddirmygu a'i wawdio gan ei gydweithwyr a oedd yn gwadu'r hil-laddiad, yn arbennig gan Walter Duranty, gohebydd Moscow New York Times ac enillydd gwobr Pulitzer.

Un o'r lluniau olaf ohono cyn iddo gael ei lofruddio ym Mongolia.

Ffynhonnell y llun, Gareth Vaughan Jones Estate
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r lluniau olaf ohono cyn iddo gael ei lofruddio ym Mongolia

Cafodd ei lofruddio yn 1935, mewn amgylchiadau amheus yn ôl ei deulu, ym Mongolia wrth iddo ymchwilio i fwriad Japan i ehangu ei thiriogaeth.

Wedi 16 niwrnod yn nwylo'r Chiniaid cafodd ei ladd, ar drothwy ei benblwydd yn 30 oed.

Cafodd plac ei ddadorchuddio yn 2006 yn Yr Hen Goleg yn Aberystwyth i gofio am ei gyfraniad.

Yn ystod y seremoni, dywedodd llysgennad Wcráin: "Dylai gael ei weld fel arwr am yr hyn a wnaeth ac am roi ei fywyd mewn perygl."

Mae nifer o gyfrolau wedi eu hysgrifennu amdano erbyn hyn, ac yn 2011 fe wnaeth teulu Gareth Jones gyflwyno ei ddyddiaduron i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Gareth JonesFfynhonnell y llun, Gareth Vaughan Jones Estate

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig