Ruth Jones yn cipio un o brif wobrau Dewi Sant

Disgrifiad,

"Mor prowd o ennill" un o brif wobrau Dewi Sant

  • Cyhoeddwyd

Mae seren y gyfres boblogaidd Gavin and Stacey wedi ennill un o brif wobrau Dewi Sant eleni.

Mae Ruth Jones, un o gyd-awduron y gyfres, yn derbyn gwobr am ei llwyddiant aruthrol i ddod â Chymru i sylw'r byd.

Cafodd y rhaglen ei gwylio gan filiynau o bobl, ac mae cyfraniad Ruth i ddiwylliant Cymru yn cael ei gydnabod yn y gwobrau nos Iau.

Dyma'r 12fed tro i'r gwobrau gael eu cynnal - maen nhw'n dathlu cyfraniad pobl ar draws Cymru mewn meysydd fel gwirfoddoli, dewrder, busnes a bod â rhan flaenllaw yn y gymuned.

Bydd y 10 enillydd arall yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn ystod y seremoni yng Nghaerdydd.

Ruth JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Ruth Jones: "Ro'n i'n methu credu e pan ges i wybod mai fi oedd enillydd gwobr y Prif Weinidog.

"Mae'n sbesial a dwi'n teimlo'n hynod o freintiedig. Dwi'n falch iawn," meddai.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Dwi wrth fy modd yn medru dathlu llwyddiant aruthrol Ruth Jones, mae wedi dangos caredigrwydd a phersonoliaethau pobl Cymru.

"Rydym yn falch iawn o gael talent mor fawr yma.

"Y gwobrau eleni yw'r cyntaf i mi eu profi fel prif weinidog, sy'n gwneud y cyfan yn fwy arbennig i mi.

"Mae'n fraint gallu dathlu grŵp arbennig o bobl dalentog. Mae'r rheiny sydd yn y rownd derfynol yn ysbrydoliaeth i ni gyd."

Enillwyr eraill:

  • Gwobr Gwirfoddoli: Tîm Achub Mynydd Llanberis

  • Gwobr Chwaraeon: Emma Finucane

  • Gwobr Gwasanaethau Cyhoeddus: Patrick Watts

  • Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: ImmunoServ

  • Gwobr Hyrwyddwr Amgylchedd: Peter Stanley

  • Gwobr Diwylliant: David Hurn

  • Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol: Paul Bromwell

  • Gwobr Busnes: Bad Wolf

  • Gwobr Dewrder: Justin Biggs

  • Gwobr Person Ifanc: Dylan Buller

Pynciau cysylltiedig