Gweithiwr iechyd 'wedi cam-drin cleifion bregus'

Ieuan Crump yn gadael Llys Y Goron Caerdydd ddydd Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Ieuan Crump, sy'n gwadu naw o gyhuddiadau, yn gadael y llys wedi gwrandawiad blaenorol

  • Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod cynorthwyydd meddygol dan hyfforddiant wedi cyffwrdd â dwy ddynes yn rhywiol pan nad oedd "unrhyw gyfiawnhad meddygol" dros wneud hynny.

Roedd Ieuan Crump yn gweithio yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân pan ddigwyddodd yr ymosodiadau honedig ar 10 ac 13 Awst 2021.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd yr erlyniad ei fod wedi gwneud hynny "er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun".

Mae Mr Crump yn gwadu naw cyhuddiad - chwech o ymosodiad rhyw, a thri o ymosodiad drwy dreiddiad.

'Chwalu ymddiriedaeth'

Wrth agor yr achos yn ei erbyn, dywedodd Matthew Roberts ar ran yr erlyniad fod Mr Crump wedi cam-drin cleifion oedd mewn "cyflwr bregus tu hwnt".

"Doedd dim rheswm na chyfiawnhad meddygol o gwbl i'w organau rhywiol gael eu gweld na'u cyffwrdd gan y diffynnydd," meddai Mr Roberts.

Ychwanegodd fod "ymddiriedaeth yn rhan greiddiol o'r proffesiwn meddygol," a bod Mr Crump wedi chwalu'r ymddiriedaeth yna mewn modd "grotesg".

Dywedodd nad oedd Mr Crump wedi ceisio dadlau fod y modd a archwiliodd y ddwy ddynes yn feddygol angenrheidiol, ond ei fod yn gwadu eu cyffwrdd yn amhriodol o gwbl.

"Mae'n fater syml felly o bwy sy'n dweud y gwir," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y troseddau honedig wrth i Ieuan Crump weithio yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Clywodd y llys fod Mr Crump wedi cynnal archwiliad ar bledren un ddynes ar ddau ddiwrnod gwahanol, wrth iddi adfer yn dilyn llawdriniaeth.

Yn ôl yr erlyniad, fe roddodd ei fysedd yn ei fagina ar 10 Awst 2021 wrth geisio gosod cathetr, yn ogystal â chyffwrdd ei horganau rhywiol.

Dridiau'n ddiweddarach, fe wnaeth Mr Crump ei harchwilio eto cyn iddi adael yr ysbyty, ble mae honiad iddo wneud yr un peth.

Doedd dim staff eraill yn bresennol yn ystod yr un o'r archwiliadau yma, meddai'r erlyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd

Fe wnaeth yr holl ymosodiadau honedig yn achos yr ail ddynes ddigwydd ar 13 Awst, gyda'r erlyniad yn dweud bod "tebygrwydd amlwg" rhwng profiadau'r ddwy.

Roedd yr ail ddynes wedi mynd i'r ysbyty gyda chyflwr ar y coluddyn, ond doedd hi ddim yn yr un ystafell â'r ddynes gyntaf.

Dywedodd yr erlyniad fod Mr Crump wedi cynnal archwiliad pledren arni hi hefyd, a'i fod wrth wneud hynny wedi cyffwrdd yn ei organau rhywiol, rhoi ei fys yn ei fagina, ac yna cyffwrdd yn ei phen-ôl.

"Does byth angen hynny wrth gynnal archwiliad ar y bledren," meddai Mr Roberts. "Ond doedd hi ddim yn gwybod hynny."

Dychwelodd Mr Crump i wneud ail archwiliad pledren yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, ond fe wnaeth y ddynes ddweud wrtho nad oedd hi eisiau archwiliad arall a ffonio ei mam.

Dywedodd yr erlyniad fod Mr Crump hefyd wedi gofyn cwestiynau "hollol amhriodol" i'r ddynes am ei hanes rhywiol.

Gwadu cyffwrdd yn amhriodol

Cafodd Mr Crump ei arestio ar 17 Awst 2021, wedi i staff meddygol gael gwybod am beth oedd wedi digwydd yn ystod yr archwiliadau a rhoi gwybod i'r heddlu.

Wrth gael ei holi, meddai'r erlyniad, fe wnaeth Mr Crump wadu cyffwrdd y ddwy ddynes yn amhriodol, gan ddweud ei fod wedi cyffwrdd rhan isaf y stumog yn unig wrth eu harchwilio.

"Pa mor debygol yw hi bod dwy ddynes ifanc... wedi gwneud cwynion bron yn union yr un peth am sut wnaeth o eu cam-drin yn rhywiol?" gofynnodd Mr Roberts.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un ddynes ei bod yn credu bod Mr Crump a oedd yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor "yn bod yn drylwyr" wrth ei harchwilio

Brynhawn Mercher cafodd cyfweliad fideo gyda’r ddynes gyntaf ei chwarae i’r rheithgor, a ddywedodd ei bod hi wedi dod ar draws Mr Crump am y tro cyntaf ar 10 Awst.

Roedd hi’n gwella o lawdriniaeth i’w stumog, a bu achlysur lle bu’n rhaid i nyrs osod cathetr iddi.

Clywodd y llys fod Mr Crump wedi gofyn i’r ddynes ddweud wrth y nyrs y byddai’n hapus iddo ef fod yn yr ystafell hefyd, gan ei fod ar hyfforddiant.

Ond wedi i’r nyrs gael trafferth yn gosod y cathetr, fe roddodd Mr Crump ymgais arni pan oedd ei gydweithiwr allan o’r ystafell.

Dyna pryd, meddai’r ddynes, iddo gyffwrdd ei fagina am y tro cyntaf, a rhoi ei fys yno.

Wedi i aelod arall o staff osod y cathetr, fe wnaeth Mr Crump wedyn gynnal ail archwiliad o’i phledren heb unrhyw staff arall yn bresennol, er ei bod hi bellach yn pasio dŵr.

Pan soniodd y ddynes wrth nyrsys eraill ei bod hi wedi cael yr ail archwiliad, dywedodd bod golwg o “benbleth” arnynt gan na fyddai angen hynny unwaith yr oedd cathetr wedi ei osod.

Ond roedd hi’n meddwl bod Mr Crump yn bod yn “drylwyr”, ac felly wnaeth hi ddim cwestiynu’r peth ar y pryd.

Ychwanegodd y ddynes nad oedd Mr Crump yn gwisgo menyg ar y pryd nac wedi golchi ei ddwylo, a’i fod wedi cynnig ei helpu i sychu’r gel a ddefnyddiodd ar gyfer yr archwiliad.

Ar ddiwedd ei shifft, daeth ati unwaith eto i wirio, a’i harchwilio yn yr un modd gan ofyn iddi dynnu ei throwsus, cyn cyffwrdd ei horganau rhyw unwaith eto.

Dridiau’n ddiweddarach, pan oedd hi’n paratoi i adael yr ysbyty, roedd Mr Crump ar shifft unwaith eto ac “wedi synnu” pan welodd ei bod hi dal yno.

Fe ofynnodd i’w harchwilio hi unwaith eto, gan gyffwrdd y tu mewn i’w choes a’i horganau rhyw.

Dywedodd y ddynes mai Mr Crump oedd yr unig weithiwr iechyd oedd wedi’i harchwilio mewn modd “lle oedd angen i mi dynnu fy siorts”.

'Dylen i fod wedi sylweddoli'

Cyn iddi adael, fe ddywedodd bod ei hesgidiau hi ar goll ers y llawdriniaeth, ac fe gynigiodd Mr Crump geisio dod o hyd iddynt.

Yna fe ddywedodd wrthi ei fod wedi rhoi ei rif a chyfeiriad e-bost ar nodyn yn ei bag, os oedd hi eisiau cysylltu i drafod ymuno gyda Sefydliad Ambiwlans Sant Ioan.

Dywedodd wrthi beidio sôn am hynny wrth unrhyw un arall, a hynny oherwydd “cyfrinachedd cleifion”.

“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn trio bod yn neis,” meddai.

Y diwrnod canlynol, fe wnaeth Mr Crump ei ffonio pan oedd hi adref, i ddweud nad oedd wedi dod o hyd i’w hesgidiau eto.

Roedd hynny’n “od”, meddai, achos “ddylech chi ddim fod yn ffonio cleifion yn uniongyrchol... a dim ond os ydych chi wedi dod o hyd iddynt”.

Wrth gael ei holi ymhellach yn y cyfweliad, dywedodd bod Mr Crump wedi gwneud iddi deimlo’n “anghyfforddus” ar adegau, ond ei fod hefyd yn “bod yn neis” ac nad oedd hi’n credu bod ei ymddygiad yn “anarferol”.

“Dwi’n teimlo’n wirion nawr achos dylen i wedi sylweddoli efallai,” meddai.

Mae’r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig