I ble aeth y Cymry? Golwg ar yr holl symud ar ôl i'r ffenestr gau

Lewis KoumasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lewis Koumas wedi creu argraff ar ddechrau ei gyfnod ar fenthyg yn Stoke

  • Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn haf prysur arall o ran trosglwyddiadau i glybiau a chwaraewyr pêl-droed Cymru.

Roedd Jordan James, Joe Rodon, Chris Mepham a Kieffer Moore ymhlith rhai o enwau mawr y tîm cenedlaethol a symudodd cyn i'r ffenestr drosglwyddo gau yn hwyr nos Wener.

Bu Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam i gyd yn prynu a gwerthu chwaraewyr yn y dyddiau olaf hefyd.

Dyma olwg ar rai o brif straeon y ffenestr drosglwyddo o safbwynt y tîm cenedlaethol a'r clybiau Cymreig ym mhyramid Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Rodon wedi ail-ymuno â Leeds United yn y Bencampwriaeth

Y trosglwyddiad mwyaf o ran arian yn ymwneud â chwaraewr o Gymru yr haf hwn oedd symudiad Joe Rodon o Tottenham i Leeds am ffi o thua £10m.

Fe wnaeth amddiffynnwr Cymru dreulio'r tymor diwethaf ar fenthyg yn Elland Road, a dywedodd bod dychwelyd i Sir Efrog, yn barhaol y tro hwn, yn "teimlo'n iawn".

Un arall sydd wedi symud i Sir Efrog yw'r ymosodwr Kieffer Moore - sydd wedi ymuno â Sheffield United o Bournemouth am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Er yn cael ei gysylltu â Chaerdydd unwaith eto, mae Moore wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb a ddisgynnodd o'r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Mae Chris Mepham hefyd wedi gadael y Cherries, yn symud i Sunderland ar fenthyg am flwyddyn.

Mae'r chwaraewr canol cae ifanc, Jordan James wedi symud o Birmingham City i Rennes yn Ffrainc am tua £4m tra bod Sorba Thomas hefyd wedi symud i glwb yn Ligue 1 - gyda'r asgellwr yn ymuno â Nantes ar fenthyg am flwyddyn.

Mae Tyler Roberts hefyd wedi gadael Birmingham City, yn symud i Northampton Town ar fenthyg am flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kieffer Moore wedi ymuno â golwr Cymru, Adam Davies (dde) yn Sheffield United

Mae ymosodwr 18 oed Cymru a Lerpwl, Lewis Koumas wedi symud ar fenthyg i Stoke yn y Bencampwriaeth, ac mae eisoes wedi sgorio dwy gôl yn ei bedwar ymddangosiad cyntaf.

Mae un arall o Gymry ifanc Lerpwl, y cefnwr chwith Owen Beck, hefyd wedi ymuno â Blackburn Rovers ar fenthyg am y tymor.

Fe wnaeth cyn-chwaraewr canol cae Lerpwl a Preston North End, Ben Woodburn arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Salford City yn Adran Dau.

Mae James Lawrence wedi symud o FC Nurnberg i Almere City yn yr Iseldiroedd, tra bod Joe Morrell yn dal heb glwb ar ôl i'w gytundeb gyda Portsmouth ddod i ben.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jesper Daland (dde) wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda Chaerdydd

Ar ôl oedi cyn cynnig cytundeb newydd i Erol Bulut ar ddiwedd y tymor diwethaf, mae Caerdydd yn bendant wedi cefnogi eu rheolwr yn ariannol yn ystod yr haf.

Er eu bod wedi gwerthu Mark McGuinness am ffi all godi i thua £10m i Luton Town, mae'r Adar Gleision wedi arwyddo tri amddiffynnwr canol i geisio gwneud yn iawn am y golled honno.

Mae Calum Chambers wedi ymuno o Aston Villa, Will Fish o Manchester United am £1m a Jesper Daland o Cercle Brugge am ffi o £3.5m.

Mae Caerdydd hefyd wedi denu chwaraewr canol cae Awstralia, Alex Robertson o Manchester City am ffi allai godi i £3m, yr asgellwr Chris Willock o Queens Park Rangers a chyn-asgellwr Aston Villa ac Everton, Anwar El Ghazi.

Yn y llinell flaen, mae ymosodwr Y Traeth Ifori, Wilfred Kanga wedi ymuno ar fenthyg o Hertha Berlin, tra bod Roko Simic wedi ei arwyddo o RB Salzburg ac wedi ei anfon ar fenthyg i KV Kortrijk yng Ngwad Belg am y tymor.

Yn ogystal â ffarwelio gyda McGuinness, mae Caerdydd wedi gwerthu'r chwaraewr canol cae, Ebou Adams am ffi sydd heb ei ddatgelu i Derby County.

Mae sawl chwaraewr ifanc wedi mynd allan ar fenthyg hefyd - gyda'r Cymry Kieron Evans ac Eli King yn ymuno â Chasnewydd a Stevenage a brawd Rubin Colwill, Joel, yn mynd i Cheltenham yn Adran Dau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae asgellwr newydd Abertawe, Eom Ji-Sung wedi ennill dau gap i Dde Corea

Roedd rheolwr Abertawe, Luke Williams wedi dweud o'r dechrau mai cryfhau'r ymosod oedd y prif ffocws yr haf hwn.

Mae ymosodwr Slofenia, Zan Vipotnik, wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda'r Elyrch ar ôl gadael Bordeaux.

Fe ymunodd yr asgellwr Florian Bianchini o Bastia am ffi o £1.95m, tra bod chwaraewr rhyngwladol De Corea, Eom Ji-Sung, wedi ymuno o Gwangju FC.

Yn oriau olaf y cyfnod trosglwyddo, fe lwyddodd Abertawe i ddenu Myles Peart-Harris o Brentfod - chwaraewr canol cae ymosodol a chwaraeodd bum gwaith i'r tîm yn yr Uwch Gynghrair y llynedd.

Cafodd y chwaraewr canol cae Goncalo Franco ei arwyddo o glwb Moreirense ym Mhortiwgal, tra bod amddiffynnwr tîm dan-20 Lloegr, Neslon Abbey hefyd wedi ymuno ar fenthyg o Olympiakos am y tymor.

O ran ymadawiadau, fe wnaeth Nathan Wood symud i Southampton at gyn-reolwr yr elyrch, Russell Martin, am ffi o tua £3m.

Fe ddaeth cytundeb Jamie Paterson i ben ac mae wedi ymuno â Charlotte FC yn yr Unol Daleithiau ac mae'r ymosodwr Jerry Yates wedi mynd allan ar fenthyg i Derby County am y tymor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ollie Rathbone wedi symud o Rotherham i Wrecsam am £500,000

Mae hi wedi bod yn haf gymharol dawel i Wrecsam, gyda Phil Parkinson yn cadw ffydd yn nifer o'r chwaraewyr sydd wedi llwyddo i ennill dyrchafiad ddwywaith yn olynol.

Ddydd Gwener fe arwyddodd y Dreigiau Mo Faal - ymosodwr ifanc o'r Gambia - o West Brom am ffi o dros £500,000.

Fe ymunodd Ollie Rathbone am ffi debyg o Rotherham cyn dechrau'r tymor - chwaraewr canol cae sydd â phrofiad eang o chwarae yn y Bencampwriaeth ac Adran Un.

Mae Callum Burton a Dan Scarr wedi ymuno o Plymouth Argyle yn y Bencampwriaeth, tra bod Lewis Brunt a George Dobson - cyn chwaraewr Charlton Athletic - hefyd wedi ychwanegu dyfnder i'r garfan.

Un o'r trosglwyddiadau pwysicaf i Wrecsam, o bosib, oedd llwyddo i berswadio'r golwr Arthur Okonkwo i ymuno â'r clwb yn barhaol wedi iddo dreulio blwyddyn ar fenthyg yno y tymor diwethaf.

Ymhlith yr enwau cyfarwydd i adael y Cae Ras dros yr haf mae Aaron Hayden, Luke Young, Ben Tozer a Jordan Tunnicliffe.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Courtney Baker-Richardson wedi sgorio dwy gôl mewn tair gêm i'r Alltudion y tymor hwn

Mae hi wedi bod yn haf arall o newid draw yng Nghasnewydd gyda dros 15 o chwaraewyr newydd yn ymuno ar fenthyg neu ar gytundebau llawn - yn ogystal â'r ffaith bod rheolwr newydd wrth y llyw.

Bu'n rhaid i Nelson Jardim, cyn-hyfforddwr gydag Abertawe, ddelio a'r ffaith bod eu prif sgoriwr y tymor diwethaf, Will Evans, wedi gadael am Mansfield am £230,000, tra bod chwaraewyr profiadol eraill fel Joe Day, Omar Bogle a Scott Bennett hefyd wedi gadael Rodney Parade.

Ond mae'r gŵr o Bortiwgal wedi bod yn brysur - mae Courtney Baker-Richardson wedi ail-ymuno a'r clwb o Crewe, Ciaran Brennan o Sheffield Wednesday a Anthony Driscoll-Glennon o Grimsby.

Yn ogystal â hynny mae'r Alltudion wedi denu nifer o chwaraewyr ar fenthyg gan gynnwys Kyle Hudlin o Huddersfield, Jamie Miley o Newcastle a Noah Mawene o Preston.