Diarddel cynghorydd am aflonyddu person 17 oed yn rhywiol

Keith JonesFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith Jones yn dweud ei fod wedi cael "cyfarwyddyd gan y Blaid Lafur" y byddai "goblygiadau cyfreithiol" i drafod y digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur Cymru wedi diarddel cynghorydd yng Nghaerdydd ar ôl i ymchwiliad tair blynedd ddod i'r casgliad ei fod wedi aflonyddu person ifanc 17 oed yn rhywiol.

Cafodd y Cynghorydd Keith Jones, sy'n cynrychioli ward Llanrhymni, ei wahardd o'r blaid yn 2022 ar ôl cwyn swyddogol, ond dydy'r blaid ddim wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth am y cyhuddiad.

Gall BBC Cymru ddatgelu bod yr ymchwiliad yn ymwneud â digwyddiad lle honnir bod Mr Jones wedi cyffwrdd ag aelod ifanc o'r blaid, oedd yn 17 oed ar y pryd, mewn digwyddiad cymdeithasol yn Lerpwl yn 2016.

Yn ôl Mr Jones, sydd hefyd yn gweithio i'r Aelod Llafur o'r Senedd, Rhianon Passmore, mae wedi cael "cyfarwyddyd gan y Blaid Lafur" y byddai "goblygiadau cyfreithiol" i drafod y digwyddiad.

Cymryd tair blynedd i ymchwilio

Yn ôl rhai a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad, roedd "nifer sylweddol o dystion" i'r digwyddiad, ond cymrodd dair blynedd i'r blaid ymchwilio.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur eu bod wedi ymchwilio yn unol â'u rheolau a'u prosesau, a'u bod yn "gweithredu pob tro os nad ydy aelod o'r blaid neu aelod etholedig yn cwrdd â'n safonau uchel".

Daeth Bwrdd Annibynnol Cwynion y Blaid Lafur i'r casgliad bod y digwyddiad honedig wedi digwydd.

Nid dyma'r tro cyntaf i Mr Jones wynebu cyhuddiadau o ymddwyn yn amhriodol.

Cafodd ei wahardd o'r blaid ddegawd yn ôl am yrru negeseuon amhriodol i aelodau ifanc o'r blaid, ac fe gollodd ei swydd fel athro am newid gwaith cwrs TGAU.

Cyhoeddodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, y byddai Mr Jones yn cael swydd yn ei gabinet fis Mai 2022, ond daeth y gwyn swyddogol ynglŷn â'r digwyddiad yn 2016 i'r amlwg, felly ni chafodd y swydd ei chadarnhau.

Mae hi wedi cymryd tair blynedd i'r blaid ymchwilio i'r honiadau, ac fe gafodd Mr Jones ei ddiarddel yn swyddogol ddydd Llun diwethaf.

Mae bellach yn aelod annibynnol o'r cyngor.

'Pob cwyn yn cael ei hymchwilio'

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru ac arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, bod y blaid "yn gweithredu pob tro os nad ydy aelod o'r blaid neu aelod etholedig yn cwrdd â'r safonau uchel mae'r blaid Lafur yn disgwyl ohonynt".

"Mae pob cwyn yn cael ei hymchwilio yn drwyadl yn unol â'n rheolau a'n prosesau."

Mae Mr Jones wedi bod yn ymgynghorydd i'r aelod Llafur o'r Senedd, Rhianon Passmore.

Nid yw hi wedi cadarnhau os ydy o'n parhau yn aelod o'i staff.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Jones ei fod wedi "cael cyfarwyddyd gan y Blaid Lafur y byddai 'na oblygiadau cyfreithiol" pe bai'n trafod yr achos "gyda'r wasg neu unrhyw un".

Pynciau cysylltiedig