Dryswch wrth i Google roi siop Aldi mewn pentref bach gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae pobl Cyffylliog ger Rhuthun yn annog pobl sy'n chwilio am Aldi yn y pentref bach gwledig i gadw draw.
Cafodd lleoliad yr archfarchnad ei newid ar wefan Google Maps am gyfnod, i ddweud yn anghywir bod y siop fawr wedi'i lleoli yng nghanol y pentref.
Yn ôl cynghorydd lleol aeth un lori'n sownd wrth chwilio am yr archfarchnad, gan ddweud er ei fod yn ddoniol ar un wedd, bod ochr "serious" hefyd.
Yn ôl Google Maps mae'r lleoliad anghywir bellach wedi'i ddileu ac maen nhw'n gweithio'n galed i ddileu gwybodaeth ffug.
Yn ôl trigolion lleol cafodd y newid i'r feddalwedd ei wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac er bod hynny bellach wedi'i ddatrys, roedd 'na dipyn o ddryswch.
"Dwi'm yn gwybod beth sydd 'di digwydd ond mae pawb 'di dilyn y sat-nav felly oedd y ceir yn mynd fyny ac mi 'naeth lori'r un fath," meddai Llinos Watkin Jones o'r pentref.
"Mi a'th y tryc yn styc ganol y ffordd ac mi 'naeth o daro gwifren gynnom ni ar dŷ'r ferch, felly dwi'n disgwyl rhywun yma i drwsio hynny.
"'Swn i'n falch 'sa'r sat-nav ddim yn d'eud wrth bobl i ddod ffordd hyn!
"Na, does 'na ddim Aldi ffordd hyn. Plîs peidiwch â dod... does 'na ddim siop fawr yma!"
Dywedodd y cynghorydd lleol dros ward Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, Elfed Williams, ei fod yn cydnabod yr hwyl, ond bod y jôc yn gallu troi'n gas ac achosi trafferthion.
"Yndi mae'n ddoniol ar un wedd, ond yn serious ar ochr arall," meddai.
"Mi aeth lori yn sownd ac aeth y ffermwr i drio'i helpu, ac fel unrhyw lôn gefn 'dy'n nhw ddim yn addas i lori mor fawr."
Ychwanegodd: "Lle mae rheolaeth Google, bod rhywun yn gallu mynd a dweud bod 'na Aldi mewn ardal lle mae 'na ffermdy?!
"Mae pobl [leol] 'di trio bod yn helpu pobl sy'n dod yma drwy sat-nav, ond ia, dydy o ddim yn ddoniol ar ochr arall.
"Mae pobl 'ma eisiau mynd i Aldi ac maen nhw'n ffendio eu hunain yng nghefn gwlad!"
Gyda'r lleoliad ar Google Maps bellach wedi'i ddileu, mae trigolion yn dweud ei bod hi wedi distewi unwaith eto a bod bywyd wedi dychwelyd yn ôl i'r arfer.
Yn ôl cwmni Google mae'r lleoliad "eisoes wedi ei ddiweddaru ar Google Maps".
"Mae'n systemau awtomatig a staff yn gweithio'n ddiflino i fonitro'r mapiau ar gyfer unrhyw wybodaeth amheus," meddai llefarydd.
"Rydym hefyd yn gwneud hi'n haws i bobl adrodd unrhyw gamgymeriadau neu safleoedd amheus, sy'n helpu gyda dilysu mapiau."
Dywedodd llefarydd ar ran Aldi eu bod nhw'n deall bod y wybodaeth bellach yn gywir.