Cystadleuaeth Côr Cymru yn dod i ben

Tlws Cor CymruFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd S4C: "Mae Côr Cymru wedi bod yn gonglfaen i ganu corawl ar y sianel ers ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl"

  • Cyhoeddwyd

Mae rhaglen Côr Cymru yn dod i ben wedi dros 20 mlynedd ar S4C.

Roedd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn ers 2003, ac yn denu corau ar draws Cymru a thu hwnt.

Dywedodd cwmni cynhyrchu Rondo, fu'n gyfrifol am y gyfres, eu bod "yn falch eithriadol o Côr Cymru a'r hyn y mae wedi ei gyflawni".

Ychwanegodd S4C fod y gyfres "wedi bod yn gonglfaen i ganu corawl ar y sianel ers ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl".

Does dim rheswm wedi'i roi dros ddod â'r gystadleuaeth i ben.

'Codi a chynnal safonau corawl Cymru'

Cystadleuaeth deledu oedd Côr Cymru, yn chwilio am y côr gorau yn y wlad.

Roedd yn cael ei ddarlledu bob dwy flynedd ar S4C.

Roedd corau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rowndiau cynderfynol mewn pum categori gwahanol - corau merched, meibion, cymysg, ieuenctid (16-25 oed), a phlant.

Yna, roedd enillwyr pob categori yn cystadlu ar gyfer y teitl Côr Cymru mewn rownd derfynol fyw.

Mae enillwyr diweddar y gystadleuaeth yn cynnwys Côr Ifor Bach, Côrdydd, Ysgol Gerdd Ceredigion a Chôr Merched Sir Gâr.

Côr Meibion MachynllethFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y rhaglen yn cael ei ddarlledu bob dwy flynedd ar S4C

Mae datganiad gan Rondo yn dweud mai bwriad y gyfres "ers y cychwyn oedd codi a chynnal safonau corawl Cymru".

"Mae'r gystadleuaeth wedi gwneud hynny a llawer mwy," meddai.

Ychwanegodd: "Rydym yn falch eithriadol o Côr Cymru a'r hyn y mae wedi ei gyflawni drwy gyfrannu at dwf, safon a phoblogrwydd canu corawl yng Nghymru.

"Mae'r diolch i'r corau sydd wedi ein hadlonni a'n hudo gyda'u perfformiadau, gan gydnabod hefyd wrth gwrs eu harweinyddion ysbrydoledig, eu cyfeilyddion dawnus a'u cefnogwyr brwd."

Fe wnaeth y gyfres ennill gwobr Bafta Cymru am y Rhaglen Cerddoriaeth ac Adloniant Gorau yn 2013 a gwobr Gŵyl Cyfryngau Celtaidd yn y categori adloniant yn 2023.

Eilir Owen Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eilir Owen Griffiths wedi arwain sawl côr yn y gyfres ar hyd y blynyddoedd

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd yr arweinydd corawl Eilir Owen Griffiths ei fod yn "siomedig iawn".

Dywedodd iddo gystadlu am y tro cyntaf yn 2005 a'i fod wedi cystadlu ar hyd y blynyddoedd ers hynny gyda chorau CF1, Côr y Drindod a Chôr Ifor Bach.

"Mae o'n gystadleuaeth mor arbennig ac sydd mor bwysig i draddodiad a gwarchod safonau traddodid corawl hefyd.

"Roedd disgwyl i ni gyrraedd y safonau rhyngwladol ond hynny mewn lefel genedlaethol... oedd hynny yn herio, yn adeiladu'r momentwm.

"Beth liciwn i wybod ydi pam? Pam diddymu cystadleuaeth sy'n drawstoriad eang iawn o'r plant ieuengaf posib i'r oedolion hŷn?"

Ychwanegodd ei fod yn "bechod bod S4C ddim yn gweld gwerth yn y profiad yna i'r gwylwyr ac i'r cystadleuwyr".

Dywedodd ei fod yn awyddus i weld S4C yn rhoi mwy o "statws i gorau a cherddoriaeth glasurol" ar y sianel.

'Ar ein colled'

Un arall sy'n "siomedig iawn" ydi'r arweinydd corawl, Cefin Roberts.

Bu'n arwain Côr Glanaethwy fel rhan o'r gystadleuaeth ers y cychwyn.

Dywedodd: "Byddwn ni ar ein colled oni bai fod rhywbeth yn dod yn ei le fo.

"Oedden nhw'n rhoi llwyfan oedd yn eich sbarduno chi ymlaen i roi'r perfformiad gorau gallech chi... a dyna dwi'n teimlo 'da ni wedi isho yn y sin corawl Cymreig ers dyfodiad Côr Cymru."

Mynegodd ei siom fod S4C wedi cwtogi oriau darlledu Eisteddfod Llangollen yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddweud fod y newyddion ddydd Llun yn "tynnu dwy haen o gystadlu corawl ar ei safon uchaf o'r sgrin deledu ac mae hynny'n drist".

Cefin Roberts
Disgrifiad o’r llun,

"Mae o wedi mynd â phlatfform arall oddi arnom ni," meddai Cefin Roberts

Dywedodd fod y gystadleuaeth wedi "ymestyn corau" ac yn eich "annog i wthio'ch corau a'u gallu nhw 'chydig yn bellach bob tro gan wybod bod y disgwyliadau yn uchel iawn".

Pan gafodd ei holi a oedd yn bryderus am ddiffyg cyfleoedd i gorau yng Nghymru, dywedodd "bendant. Bydd yna lai."

"Mae o wedi mynd â phlatfform arall oddi arnom ni a dydi o ddim yn teimlo/swnio fel bod rhywbeth arall am ddod yn ôl yn ei le o."

'Conglfaen i ganu corawl'

Dywedodd S4C: "Mae Côr Cymru wedi bod yn gonglfaen i ganu corawl ar y sianel ers ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl.

"Rydym yn hynod o falch o'r hyn mae wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd – yn rhoi cyfleoedd di-ri i gorau gystadlu a dod at ei gilydd ac o fod yn gatalydd i godi safon ein canu corawl.

"Mae gwaddol y gyfres nawr i'w gweld yn niferoedd y corau sy'n cystadlu a pherfformio ar lwyfannau eisteddfodau – o'r lleol i'r cenedlaethol, a neuaddau cyngerdd ar hyd y wlad.

"Edrychwn ymlaen i barhau i fwynhau eu perfformiadau a'u cefnogi drwy roi llwyfan iddynt ar draws ein platfformau yn ein holl raglenni o'r eisteddfodau a'r gwyliau amrywiol."