Y DJ 10 oed sy'n paratoi ar gyfer ei gig fwyaf hyd yma

Disgrifiad,

O'r neuadd ysgol i Neuadd Ogwen - mae'r DJ Efan Electro wrth ei fodd yn gweld ymateb pobl i'r gerddoriaeth mae o'n ei chwarae

  • Cyhoeddwyd

Yn 10 oed, mae'r DJ o Ddyffryn Ogwen, Efan Electro, yn paratoi at gig fwyaf ei yrfa.

Fe fydd yn rhannu'r un llwyfan â'r DJ proffesiynol Judge Jules nos Wener yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Mae Efan yn perfformio ers dwy flynedd ac mae'n dweud mai ei freuddwyd fyddai perfformio yng ngwyliau cerddorol mwya'r byd, fel Glastonbury, rhyw ddiwrnod.

Wedi dechrau DJ'io yn wyth oed yn ei gartref, mae o rŵan yn dod i sylw cefnogwyr cerddoriaeth o'r fath ac yn dweud bod artistiaid fel Marshmello a DJ's o'r 90'au wedi ei ysbrydoli.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efan Electro yn dechrau gwneud enw i'w hun yn y sîn gerddoriaeth ddawns electroneg

Er yn "nerfus" mae Efan yn dweud ei fod hefyd yn edrych ymlaen at y profiad o berfformio'r set agoriadol nos Wener cyn i Judge Jules gloi'r noson.

"'Dolig pan oeddwn i newydd droi yn wyth, o'n i mewn i Marshmello ac o'n i'n meddwl: 'Mae hwnna'n edrych fel rhywbeth dwi eisiau trio'," meddai.

"O' ni'n meddwl: 'Mae hwnna'n edrych yn rili cool so gesh i decks bach cyntaf fi ac yna gig cynta' fi yn parti pen-blwydd anti fi."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efan wedi dod yn ei flaen yn aruthrol ers rhoi cynnig ar fod yn DJ yn wyth oed

Ers ei gig gyntaf, mae Efan wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau ar draws y gogledd ac yn dweud ei fod yn paratoi'n drylwyr.

"Efo gigs cyntaf fi, doeddwn i ddim eisiau i rhywbeth fynd yn wrong felly oedd gen i really specific set list," meddai.

"Dwi 'di bod yn rili heavily unfluenced gan DJ's o'r 90au."

Mae perfformio, meddai, yn rhoi gwefr iddo.

"Oedda fi isho i bobl deimlo yr un peth oeddwn i'n teimlo wrth wylio'r DJ's mawr ma a cael pawb arall i deimlo fo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyd-ddisgyblion Efan yn Ysgol Llanllechid yn mwynhau dawnsio i'w gerddoriaeth, medd pennaeth yr ysgol, Gwenan Davies Jones

Mae Efan hefyd i'w weld yn aml yn perfformio i'w gyd-ddisgyblion yn Ysgol Llanllechid, ac mae ei ffrindiau wrth eu boddau, meddai pennaeth yr ysgol.

"Mae o mor broffesiynol i feddwl fod o'n hogyn 10 oed," meddai Gwenan Davies Jones, Pennaeth Ysgol Llanllechid.

"Mae ganddo fo y gear i gyd ac mae'i fam a'i dad yn gefnogol ac yn helpu yr ysgol hefyd.

"Roedd y plantos i gyd wrth eu boddau yn dawnsio a neidio o'i flaen o, yn cael modd i fyw."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efan yn gobeithio cyrraedd yr un uchelfannau â DJs fel Marshmello a Judge Jules

Er ei fod ond yn 10 oed, mae Efan yn gobeithio gwireddu breuddwyd un diwrnod o wneud y naid o lwyfannau lleol i rai cenedlaethol.

Perfformio mewn "festivals mawr fel Glastonbury a Tomorrow Land" yw'r gobaith.

"Dwi eisiau gwneud rhestr o'r llefydd dwi eisiau chwarae a dwi ddim am stopio tan dwi'n gorffen y rhestr yna!" meddai.

"Ond ia, Glastonbury... that's the dream!"