Dynes o Gaerdydd wedi'i chyhuddo o stelcian teulu Madeleine McCann

Mae Karen Spragg a Julia Wandel yn wynebu cyhuddiadau'n ymwneud â stelcian
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 60 oed o Gaerdydd wedi cael ei chyhuddo fel rhan o ymchwiliad i honiadau o stelcian teulu Madeleine McCann.
Diflannodd Madeleine yn dair oed yn ystod gwyliau teuluol ym Mhortiwgal yn 2007.
Er y sylw byd eang, mae'r achos yn parhau heb ei ddatrys.
Mae Karen Spragg, o Gaerau, Caerdydd, wedi'i chyhuddo o stelcian gan achosi braw neu drallod difrifol rhwng 3 Mai 2024 a 21 Chwefror eleni, meddai Heddlu Swydd Gaerlŷr.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Caerlŷr ddydd Gwener ond ni wnaeth gyflwyno ple. Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Yn Llys y Goron Caerlŷr ddydd Gwener, fe wnaeth Julia Wandel, sydd o Wlad Pwyl, ymddangos mewn gwrandawiad byr.
Mae hi'n wynebu pedwar cyhuddiad yn ymwneud â stelcian y teulu, mynd i'w cartref ac anfon llythyr a negeseuon atynt.
Cafodd ei chais am fechnïaeth ei wrthod.