Tywydd: Disgwyl eira wrth i'r tymheredd ddisgyn ar draws Cymru

Eira ar lonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r tymheredd ostwng i -10C (14F) mewn rhannau o Gymru dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai rhagolygon tywydd yn amcan y bydd hyd at 10cm (4 modfedd) o eira ar dir uchel yng Nghymru'r penwythnos hwn.

Mae'r tymheredd wedi gostwng i -8C (18F) mewn mannau ddydd Gwener.

Dywed y Ganolfan Ewropeaidd am Ragolygon Tywydd (ECMWF) y bydd eira yn disgyn ar fryniau ac ar lefelau is, mewndirol.

Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira mewn grym tan fore Sul ar hyd arfordir dwyreiniol Prydain.

Fe allai tymereddau ostwng i -10C (14F).

Dywedodd ECMWF y gallai 1-5cm (0.4-2 modfedd) o eira ddisgyn ar draws Cymru - o gymoedd y de tua'r gogledd i Bowys.

"Ardaloedd tir uchel, mewndirol" yw'r mwyaf tebygol i weld eira, yn ôl cyflwynydd tywydd y BBC, Sabrina Lee.

Pynciau cysylltiedig