Merch a fagwyd yn y Dwyrain Canol yn ennill Ysgoloriaeth Defi Fet

Disgrifiad,

Penderfynodd Elan Haf Henderson i "ddod nôl" at ei "gwreiddiau Cymraeg"

  • Cyhoeddwyd

Merch a gafodd ei magu yn y Dwyrain Canol yw enillydd cyntaf ysgoloriaeth newydd i fyfyrwyr cwrs milfeddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Elan Haf Henderson yn derbyn Ysgoloriaeth Defi Fet sydd werth £2,500 i astudio yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth er cof am filfeddyg uchel ei barch o ardal Llandysul, y diweddar DGE Davies. Roedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Defi Fet.

Dywedodd Elaine Davies, rhoddwr i'r ysgoloriaeth a merch y diweddar DGE Davies: "Ry'n ni yn gwybod bod y sector amaethyddol yn asgwrn cefn i’r Gymraeg felly mae mor bwysig bo' ni'n gallu cynhyrchu siaradwyr Cymraeg eraill i wasanaethu y diwydiant amaeth."

'Dod nôl at fy ngwreiddiau Cymraeg'

Fel rhan o’r ysgoloriaeth newydd, bydd Elan yn gwneud dros hanner ei chyfnod o brofiad gwaith ar fferm a phrofiad clinigol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd hefyd yn manteisio’n llawn ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar y cwrs.

Er i Elan dreulio'r blynyddoedd diwethaf yn Llandwrog, cafodd ei magu yn y Dwyrain Canol ar ôl i’w rhieni symud pan oedd hi’n chwe blwydd oed.

Cafodd gyfnodau yn Abu Dhabi, Bahrain a Kuwait.

Ffynhonnell y llun, Elan Haf Henderson

Eglurodd ar BBC Radio Cymru: "Dwi heb dyfu i fyny yng Nghymru, tyfais i fyny yn y Dwyrain Canol cyn dod nôl wedyn i 'neud TGAU a Lefel A yma.

"A penderfynu bo' fi isio dod nôl at fy ngwreiddiau Cymraeg a derbyn wedyn addysg prifysgol milfeddygaeth drwy Gymraeg yn Aberystwyth gan fy mod heb gael yr addysg yna fel plentyn.

"Diolch i Mam i ddechra' am 'neud yn siŵr 'mod i'n cadw fy Nghymraeg.

"Mae just yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon a dwi'n gwerthfawrogi bob cyfle i mi gal 'neud hyn.

Ychwanegodd: “Dwi'n edrych ymlaen i weithio yn y gymuned fel milfeddyg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.

"Mi fydd o'n her. Mae safon y Gymraeg yn y gradd yn uwch na'r safon dwi 'di arfer efo ond dwi'n mwynhau yr her yn sicr."

'Milfeddygon sy'n siarad Cymraeg yn bwysig'

Mae Elaine Davies, merch y diweddar DGE Davies yn falch o allu cefnogi'r ysgoloriaeth er mwyn meithrin cenhedlaeth newydd o filfeddygon cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd: "Pan glywes i am sefydlu yr ysgol filfeddygol yn Aberystwyth, meddylies i bydde Dadi wedi bod wrth ei fodd â hynna achos oedd e wedi sôn ar hyd y blynyddoedd gymaint o drueni oedd e nad oedd darpariaeth ar gyfer milfeddygon cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.

"Fe fu'n rhaid i nhad fynd yn fachgen ifanc 18 oed o Landysul i Lundain i astudio."

Yn ôl Ms Davies, roedd perthynas Defi Fet â ffermwyr yr ardal cyn bwysiced â'i ofal o'r anifeliaid ac felly mae milfeddygon sy'n siarad Cymraeg yn hanfodol.

Mae hi hefyd yn cofio "stori chwedlonol" yn ei theulu am ei thad yn mynd i helpu buwch i eni llo cyn mynd â'i mam i'r ysbyty ar gyfer ei geni hi:

"Oedd Mam wedi cyrraedd yr unfed awr ar ddeg o ran fy ngeni fi a Dad yn dweud, 'Ie wna i fynd â ti i'r ysbyty yn Gaerfyrddin ac ar y ffordd derbyn y wybodaeth bod rhaid mynd i weld buwch, un oedd methu dod â llo oedd honno hefyd yn ardal anghysbell Brechfa.

"Roedd stori fowr ynglŷn â'r eira a mynd yn sownd ond fe gyrhaeddon nhw yn Gaerfyrddin a fe gyrhaeddais i yn saff!"

Pynciau cysylltiedig