Sefydlu Ysgol Milfeddygaeth gyntaf Cymru yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Mae galwadau ers degawdau am sefydlu gradd mewn milfeddygaeth yng Nghymru
Bydd modd i fyfyrwyr gymhwyso fel milfeddygon drwy astudio yng Nghymru am y tro cyntaf o fis Medi 2021 ymlaen.
Ddydd Gwener, bydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru yn cael ei lansio'n swyddogol yn Aberystwyth.
Bydd y sefydliad yn caniatáu i fyfyrwyr ddilyn gradd Baglor Gwyddor Filfeddygol (BVSc) newydd fydd yn cael ei chynnig ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygaeth Frenhinol.
Bydd modiwlau o'r cwrs gradd hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd myfyrwyr yn astudio am ddwy flynedd yn Aberystwyth, cyn cwblhau tair blynedd yn y Coleg Milfeddygaeth Frenhinol yn Swydd Hertford.
Bydd cyfle i ymgeisio am le yn yr hydref, gyda'r myfyrwyr cyntaf yn cyrraedd ym mis Medi'r flwyddyn nesaf.

Dafydd Alun: 'Newyddion calonogol iawn'
Dywedodd Dafydd Alun, un o filfeddygon Milfeddygfa Ystwyth yn y dref, fod y gallu i astudio rhan o'r cwrs drwy'r Gymraeg yn rhywbeth i'w groesawu.
"Mae'n newyddion calonogol iawn," meddai.
"Byddwn i wedi hoffi gallu gwneud yr un peth 20 mlynedd yn ôl, ac mae'n grêt bod rhywun yn gallu astudio rhan o'r cwrs yn y Gymraeg.
"Mynd allan i ffermydd y byddaf i fwyaf. Mae rhan helaeth o ffermydd yr ardal yn siarad Cymraeg ac yn Gymraeg rydym ni'n gweithio o ddydd i ddydd felly mae'r gallu yna i gymhwyso rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn beth bendigedig."
Cyn sefydlu'r ysgol newydd yn Aberystwyth, y sefydliadau milfeddygol agosaf i fyfyrwyr o Gymru yn ddaearyddol oedd ym Mryste neu Lerpwl.

Llun artist o'r Ganolfan Addysg Milfeddygaeth fydd yn Aberystwyth
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2014