Lluniau Ddoe a Heddiw: Y Pasg
- Cyhoeddwyd
O fonedi Pasg i wyau siocled, dyma olwg ar ddathliadau'r Pasg yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Pwy sy'n chwarae Twco Afalau ar noson Calan Gaeaf? Roedd plant Caerdydd (ac un ci...!) yn chwarae Twco Wyau Pasg ar 26 Mawrth 1937 ac yn ceisio bachu'r wy Pasg oddi ar y llinyn

Merch fach o Gaerdydd yn mwynhau ei wy Pasg yn 1938

Paratoi cadeiriau haul Ynys y Barri ar gyfer prysurdeb y Pasg yn 1937

Cystadleuaeth gwneud boned Pasg ym Mro Ddyfi. Gweni Morris, Beryl Morris, Dwynwen Humphrey a Mrs. Handlock sy'n gwisgo'r bonedi tra bod y dynion yn eu haddurno

Parti Pasg yn Neuadd Llansawel yn 2011

Trigolion Penparcau yn eu bonedi Pasg yn Neuadd Goffa Penparcau, 1950

Gorymdaith dydd Llun y Pasg ym Mhenmachno

Merched Penrhyndeudraeth yn eu bonedi Pasg tua 1975. Tybed pwy yw'r cyw bach?

Plant Ysgol y Gurnos yn eu bonedi Pasg yn 1978/79

Merched eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Troedyrhiw, yn arddangos eu bonedi Pasg y tu allan i'r eglwys yn y 1970au

Ras bramiau ar ddydd Llun y Pasg ym Mhenmachno rai degawdau yn ôl

Plant Gwaelod y Garth yn eu dillad gorau gyda thusw o flodau ar gyfer dathliadau'r Pasg yn 1922

Cynthia Osborne o Gaerdydd gyda'i bwrdd Pasg yn ei gardd yn 2020. Byddai Cynthia wedi arddangos ei bwrdd o addurniadau yn ei heglwys leol oni bai am gyfyngiadau Covid

Roedd y merched yma wedi dod â chanŵ i ddathlu'r Pasg ym Mhorthcawl slawer dydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024