Etholiad cyffredinol: Gorsafoedd pleidleisio wedi cau
![Gorsaf bleidleisio](https://ichef.bbci.co.uk/news/907/cpsprodpb/e38e/live/905d8100-3a01-11ef-bbe0-29f79e992ddd.jpg)
Fe wnaeth y gorsafoedd gau am 22:00
- Cyhoeddwyd
Mae gorsafoedd pleidleisio wedi cau ar draws Cymru wedi'r pleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU.
Fe agorodd y canolfannau am 07:00 fore Iau, gan gau am 22:00.
Mae cyfanswm o 235 o ymgeiswyr yn sefyll ar draws 32 o etholaethau Cymru, gyda phob un ac eithrio sedd Ynys Môn yn cael ei hymladd o dan ffiniau newydd.
Daw’r newidiadau yn dilyn adolygiad a leihaodd nifer y seddi Cymreig yn San Steffan o wyth, i gysoni nifer y pleidleiswyr yn etholaethau’r DU.
I fwrw pleidlais roedd angen mynd â dogfen adnabod, dolen allanol i'r orsaf bleidleisio.
Bydd y cyfrif yn digwydd dros nos a disgwylir i'r canlyniadau cyntaf yng Nghymru gael eu cyhoeddi ar ôl tua 02:00 ddydd Gwener.
Bydd darllediadau llawn o'r canlyniadau a'r dadansoddiadau ar S4C, Radio Cymru a Cymru Fyw.