Cawodydd trwm o law i daro siroedd yn y gogledd

Map y rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Map y rhybudd tywydd sydd wedi ei gyhoeddi ar gyfer bore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl cawodydd trwm o law yn rhai o siroedd y gogledd yn ystod hanner cyntaf ddydd Sul.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law ar gyfer siroedd Conwy, Dinbych a'r Fflint.

Fe fydd mewn grym rhwng 04:00 a 10:00.

Yn ôl yr arbenigwyr fe fydd y cawodydd yn symud yn araf dros yr ardaloedd dan sylw, gan achosi llifogydd posib a thrafferthion i deithwyr.

Fe allai 30-40mm o law syrthio mewn rhai ardaloedd o fewn cyfnod o ddwy neu dair awr.

Pynciau cysylltiedig