Dim llongau yn hwylio yn sgil Storm Kathleen
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Aer Lingus wedi canslo'r hediadau rhwng Caerdydd a Belffast yn sgil Storm Kathleen.
Hefyd does yna ddim llongau yn teithio rhwng Penfro a Rosslare ddydd Sadwrn na ddydd Sul oherwydd y tywydd gwael.
Does yna ddim llongau chwaith yn hwylio rhwng Abergwaun a Rosslare dros y penwythnos wedi i gwmni Stena ddweud bod y tywydd yn rhy stormus.
Mae un llong wedi hwylio o Gaergybi i Ddulyn ddydd Sadwrn. Mae gweddill y teithiau wedi'u canslo ond mae disgwyl y bydd teithiau ddydd Sul yn digwydd fel arfer.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai gwyntoedd cryfion effeithio ar rannau helaeth o Gymru ddydd Sadwrn.
Fe ddaeth rhybudd melyn am wynt i rym am 08:00 a bydd yn weithredol hyd at 22:00 nos Sadwrn wrth i Storm Kathleen daro rhannau o'r Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwyntoedd cryfion arwain at oedi ar y ffyrdd ac amgylchiadau peryglus i gerddwyr mewn mannau ar hyd yr arfordir.
Mae disgwyl hyrddiadau o tua 50mya, tra bod hyrddiadau hyd at 70mya yn bosib ar hyd y glannau.
Y siroedd sy'n debygol o gael eu heffeithio yw Pen y Bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot, Penfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.
Mae nifer o hediadau i ac o Ogledd Iwerddon a'r Weriniaeth wedi'u canslo ond dywed llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd fod pob awyren arall yn hedfan fel arfer.
Atyniadau'n cau
Mae Rheilffordd Yr Wyddfa wedi canslo pob taith oedd wedi'i threfnu dros y penwythnos oherwydd y rhagolygon.
Mae cwmni Zip World hefyd wedi cyhoeddi y bydd ei safleoedd ledled Cymru ar gau yn llwyr neu'n rhannol dros y penwythnos.
Mae gwasanaeth bad achub yr RNLI yn annog pobl i fod yn hynod ofalus os yn ymweld ag arfordiroedd wrth i'r gwyntoedd, o bosib, achosi amodau heriol.
Maen nhw'n annog pobl ond i fynd i'r môr os oes achubwyr bywyd gerllaw.
"Os oes gennych gynlluniau i fynd i'r môr mewn man arall gwnewch yn siŵr nad ydych yn mynd ar eich pen eich hun a rhowch wybod i bobl am eich cynlluniau," medd Chris Cousens, rheolwr diogelwch dŵr yr RNLI.
"Ac os yn cerdded ar yr arfordir peidiwch â mynd yn rhy agos i ochr y dŵr."