Dynes wedi marw ar ôl camgymeriadau profion canser

Linda StrodeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Linda Strode o ganser ceg y groth yn Ionawr 2023 ar ôl dau brawf negyddol

  • Cyhoeddwyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro i deulu menyw o Sir y Fflint fu farw o ganser, wedi iddynt fethu ag adnabod annormaledd mewn dau brawf ceg y groth.

Bu farw Linda Strode, 54 oed, o ganser ceg y groth yn Ionawr 2023.

Cafodd ddiagnosis ar ddechrau 2022 , wyth mis ar ôl derbyn canlyniad prawf negyddol ym Mai 2021.

Mewn cwest i'w marwolaeth dyfarnodd y crwner John Gittins bod prawf ceg y groth Ms Strode yn 2016 wedi methu ag adnabod presenoldeb celloedd anarferol, tra bod prawf arall yn 2021 wedi cael ei adolygu yn anghywir.

Golygodd hynny na wnaeth Ms Strode gael profion pellach, mewn cyfnod ble gallai fod wedi derbyn triniaeth.

'Dyfarnu nhw'n normal yn gamgymeriad'

Fel rhan o ymchwiliad i farwolaeth Ms Strode fe wnaeth Dr Andrew Evered, ymgynghorydd gwyddoniaeth biofeddygol i Sgrinio Serfigol Cymru, adolygu canlyniadau ei phrawf cyntaf o 2016.

Dywedodd fod arwyddion cynnar o ganser, a bod "eu dyfarnu nhw'n normal yn gamgymeriad".

Yn trafod ei phrawf o 2021, dywedodd nad oedd y sgan yn cynnwys digon o gelloedd er mwyn gwneud penderfyniad cadarn, gan ddweud y dylai fod wedi cael ei nodi fel prawf "annigonol".

Dylai Ms Strode fod wedi cael ei galw am brofion pellach yn sgil hynny, yn ôl Dr Evered.

'Camgymeriadau'n gallu digwydd'

Fe wnaeth dau aelod o staff adolygu sgan Ms Strode yn 2016, tra bod tri wedi cymryd golwg ar y sgan yn 2021.

Ni chafodd unrhyw annormaleddau eu darganfod, nac unrhyw bryderon eu codi wedi'r profion.

Erbyn i Ms Strode gael ei chyfeirio at oncolegydd yn Ysbyty Glan Clwyd, doedd dim modd trin y canser, a dim ond gofal lliniarol oedd yn gallu ei chynnig iddi.

Dywedodd Gareth Powell, pennaeth rhaglen Sgrinio Serfigol Cymru, bod y tîm yn adolygu tua 25,000 o brofion y flwyddyn.

Yn ôl eu ffigyrau diweddaraf o Ionawr 2021 i Awst 2023, roedd gan eu hadolygiadau gyfradd cywirdeb o 98.93%, o'i gymharu â 95% ar draws Prydain.

Er hyn, dywedodd bod "camgymeriadau yn gallu digwydd".

Dywedodd llefarydd ar ran Sgrinio Serfigol Cymru: "Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i'n cleifion o ddifri', a byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau."

Dywedodd Mr Gittins ei bod yn "anodd credu" fod y camgymeriadau wedi digwydd ddwywaith, ond na fydd yn ysgrifennu adroddiad atal marwolaethau pellach.

Yn cyfeirio at deulu Ms Strode, dywedodd Mr Gittins mai "realiti 99% yw y bydd wastad yr 1%, ac yn eich achos chi Linda, eich mam a chwaer, yw hwnnw".

Ar ôl y gwrandawiad, disgrifiodd merch Ms Strode, Sharna Shwenn, ei mam fel "person positif oedd yn caru bywyd".

"Dwi wirioneddol yn credu y byddai hi yma heddiw petai hi wedi cael ei thrin yn gywir," meddai.

"Mae'n fy ngwneud i mor flin ei bod hi wedi marw oherwydd bod ei chanlyniadau heb gael eu hasesu’n gywir."