Morgannwg yn colli eu gêm gyntaf yn y Cwpan Undydd

MorgannwgFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  • Cyhoeddwyd

Cafodd Morgannwg eu trechu'n gyfforddus gan Sir Gaerwrangon yn eu gêm gyntaf yn y Cwpan Undydd ddydd Gwener.

Fe gyrhaeddodd Morgannwg gyfanswm o 199, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan mewn ychydig dros 40 pelawd yn unig.

Roedd hynny er gwaethaf ymdrechion Ben Kellaway gyda'i sgôr o 82.

Yn eu hymateb nhw fe gyrhaeddodd Sir Gaerwrangon y targed hwnnw gyda phedair wiced, a dros wyth pelawd, yn weddill.

Pynciau cysylltiedig