Sêr mewn gêm bêl-droed i gefnogi plant â chanser

Disgrifiad,

Katy Yeandle yn rhannu stori ei mab, Joseph, a fu farw o fath prin o ganser yn 2021 ag yntau ond yn dair oed

  • Cyhoeddwyd

Byddai wedi gwneud diwrnod Joseph Yeandle i weld Owain Tudur Jones, Joe Ledley a llu o sêr YouTube a Love Island yn chwarae yn stadiwm ei hoff glwb, mewn gêm a gafodd ei ysbrydoli ganddo fo.

Yn anffodus, bu farw'r cefnogwr pêl-droed o fath prin o ganser yn 2021, ag yntau ond yn dair oed.

Nawr mae ei fam Katy a'i fodryb Emma wedi rhoi eu bywydau i helpu teuluoedd fel nhw.

gem
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm yn Abertawe ddydd Sadwrn

Yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth ac arian i helpu teuluoedd plant â niwroblastoma, fe wnaethon nhw drefnu gêm all-star rhwng Cymru a Lloegr yn Stadiwm Swansea.com Abertawe ddydd Sadwrn.

JosephFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teulu Joseph wedi codi arian i'w anfon i America am driniaeth

"Rwy'n cofio sefyll yn y glaw gyda bwced ar gornel stryd yn ceisio codi arian er mwyn i Joseph gael yr hyn yr oeddem yn gobeithio fyddai'n driniaeth i achub ei fywyd yn America," meddai Katy.

"Roeddwn i'n meddwl ar y pryd 'beth ydw i'n gwneud yma, dylwn i fod yn treulio'r amser gwerthfawr yma gyda fy mab' ond roedden ni mor daer angen codi'r arian, fe wnaethon ni'r hyn roedd yn rhaid i ni."

Roedd y teulu'n gobeithio codi £300,000 fel y gallai Joseph gael triniaeth newydd yn Efrog Newydd - triniaeth nad oedd ar gael ar y GIG - sef y treial brechlyn Deufalent.

Cododd y teulu £200,000 mewn naw mis trwy ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd ar-lein, ond bu farw Joseph ychydig ddyddiau ar ôl y Nadolig yn 2021

Joseph mewn ffairFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Katy wrth gofio ei mab ei bod "yn gallu gweld ei wên bob dydd"

Roedd rhieni Joseph, Katy a James, wedi prynu ei wisg ysgol gyntaf, ond ni chafodd fyth ei gwisgo, ac roedd yna anrhegion Nadolig na chafodd byth eu hagor.

Ond maen nhw wedi sianelu eu galar i helpu eraill.

"Allwn i ddim gadael i unrhyw un arall fynd trwy'r hyn a wnaethom ni - y teimlad o anobaith a phwysau i godi arian i geisio achub ei fywyd," meddai Katy, sydd wedi cael ei chydnabod gan wobrau Pride of Britain am ei gwaith.

"Dydw i ddim yn difaru ceisio codi arian, ond byddai'n dda pe na byddai'n rhaid i mi golli'r amser y gallwn fod wedi'i gael gyda Joseph.

"Felly os gallwn ni leddfu'r baich yna ar famau a thadau sy'n mynd trwy uffern, a rhoi amser iddyn nhw dreulio pob eiliad gyda'u plentyn yn hytrach na phoeni am yr arian, yna mae hynny'n etifeddiaeth gadarnhaol i Joseph.

"Mae'n bwysig i ni fel teulu gan ei fod wedi helpu yn ein galar. Mae'n teimlo ein bod ni'n ei gadw'n fyw."

Emma a Katy
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Katy yr elusen Joseph's Smile gyda'i chwaer Emma

Ffurfiodd Katy a'i chwaer Emma Rees, 43, elusen Joseph's Smile ac maen nhw wedi dosbarthu'r arian a godwyd ar gyfer triniaeth Joseph i blant sâl eraill.

Ar hyn o bryd maen nhw'n cefnogi 16 o deuluoedd.

Fe wnaeth y ddwy fam o Sir Gâr helpu i ddenu rhai o wynebau enwocaf a chwaraewyr gorau'r DU i gymryd rhan mewn gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Abertawe brynhawn Sadwrn.

Bu sêr pêl-droed fel Ashley Williams a Joe Ledley yn ymuno â'r arwyr rygbi Shane Williams a Gareth Thomas, ynghyd â sêr teledu realiti, mewn tîm o Gymry a oedd yn cael ei reoli gan arwr Euro 2016 Cymru, Chris Coleman.

Roedd tîm Lloegr yn cynnwys cyn-chwaraewyr fel Jermain Defoe, dan arweiniad Sol Campbell fel rheolwr.

Bradley Lowery a Jermain DefoeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bradley Lowery gyda'i arwr, Jermain Defoe - daeth y ddau yn agos yn y misoedd cyn i Bradley farw yn chwech oed yn 2017 o'r un canser prin â Joseph

Cafodd tîm Lloegr ei drefnu gan Sefydliad Bradley Lowery, a gafodd ei ddechrau er cof am fachgen chwech oed a fu hefyd farw o niwroblastoma yn 2017.

Mae'r ddau sefydliad yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ac arian i deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan niwroblastoma - canser sy'n datblygu mewn celloedd nerfol, sy'n effeithio'n bennaf ar blant dan bump oed.

Dywed Katy bod y gêm, er iddi gymryd bron i ddwy flynedd i'w threfnu, wedi ei helpu cymaint, ac mae'n gobeithio y bydd yn helpu teuluoedd eraill hefyd.

"'Dw i wedi treulio misoedd yn eistedd ar fy soffa yn e-bostio asiantau. 'Dw i wedi anfon neges at tua 2,000," meddai.

"Mae'r galar yno bob amser, a rhai misoedd alla i ddim gwneud dim byd - hyd yn oed gadael y tŷ.

"Mae'r elusen yn ein helpu ni gymaint ag y mae'n helpu'r plant. Mae siarad am Joseph yn fy nghadw'n brysur, a 'dw i'n gallu gweld ei wên bob dydd."