Jessica Robinson: Y Gymraes yng nghystadleuaeth Canwr y Byd

  • Cyhoeddwyd

Eleni mae cystadleuaeth Canwr y Byd yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac yn denu cantorion o bob cwr o’r byd.

Dros y blynyddoedd mae sawl Cymro neu Gymraes wedi cystadlu gan gynnwys Bryn Terfel yn 1989.

Ond yr wythnos hon ar Gymraes o Sir Benfro y bydd llygaid y byd canu clasurol, a’i henw yw Jessica Robinson.

Ffynhonnell y llun, Jessica Robinson

Enillodd Jessica Gystadleuaeth Cantorion Cymreig 2022 ym mis Rhagfyr y llynedd – camp a sicrhaodd le i’r soprano 32 mlwydd oed yng nghystadleuaeth Canwr y Byd 2023.

O Landysilio yn Sir Benfro y daw Jessica yn wreiddiol ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd gyda’i gŵr, Dyfed a’u ci, Splott.

Ffynhonnell y llun, Jessica Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Priododd Jessica a Dyfed yn 2022

“Dechreuais i ganu’n ifanc iawn. Ro’n i o hyd yn joio perfformio ac es i ati i gystadlu yn eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol ac mewn eisteddfodau lleol. Wedyn pan ddaeth hi’n adeg prifysgol ’nes i benderfynu mynd i Goleg Cerdd a Drama Cymru.”

Yno fe astudiodd hi gwrs israddedig mewn Cerddoriaeth, ac yna radd meistr mewn Perfformio Opera.

“Wnes i’r cwrs ar hap fel mae’n digwydd, achos do’n i ddim yn gwybod bod y fath radd yn bodoli! Es i i wneud clyweliad a diolch byth, ges i le. Ac o fan ’na fe wnes i gwympo mewn i’r byd opera am fy mod i’n joio’r elfen o actio a chanu gyda’i gilydd.”

Ffynhonnell y llun, Jessica Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Jessica yn cystadlu yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc yn 2016

Er ei bod hi erbyn hyn yn canu’n broffesiynol cafodd ei chrefft ei feithrin ar lawr gwlad mewn mudiadau di-ri fel y Clwb Ffermwyr Ifanc.

“Dw i wedi bod yn ffodus iawn i fod yn rhan o nifer o grwpiau a mudiadau sydd wedi fy helpu i gyda pherfformio. Mae’r Clwb Ffermwyr Ifanc yn glwb sy’n agos iawn at fy nghalon i. Dw i wedi gwneud nifer o gystadleuaethau gyda nhw dros y blynyddoedd ond yr Eisteddfod oedd yr uchafbwynt i mi pob blwyddyn. Dw i mor ddiolchgar iddyn nhw am gymaint o gyfleoedd perfformio sydd wedi arwain fi at ble ydw i nawr – yn gwneud gyrfa fel cantores opera.”

Mwy na llais mawr...

Roedd hi’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Clunderwen am flynyddoedd lle cafodd hi’r cyfle i droi ei llaw at fwy na chanu, meddai.

“Dros y blynyddoedd dw i wedi barnu stoc, dw i wedi ennill y gystadleuaeth stand-up, a hefyd wedi tynnu tug-of war. Es i ymlaen i gynrychioli Cymru yn tynnu tug-of war hefyd. Ie... felly amrywiaeth bach ynghlwm â’r Clwb Ffermwyr ifanc!”

Ffynhonnell y llun, CFFI Cymru

Ond am nawr, dim ond un peth sy’n cael ei sylw – cystadleuaeth Canwr y Byd.

“Dw i wedi dilyn y gystadleuaeth hon ers o’n i’n ifanc iawn a dw i dal yn cael bach o sioc pan dw i’n meddwl taw fi fydd ar y llwyfan.”

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Jessica yn siarad fel aelod o'r gynulleidfa ar raglen Canwr y Byd 2015 ar S4C

“Mae paratoi ar gyfer y gystadleuaeth ‘ma wedi bod yn lot fawr o waith, mae’n rhaid dweud! Dw i wedi dysgu 22 o ganeuon newydd. Mae popeth mewn arddulliau gwahanol ac wedi ‘ngwthio i mas o’r comfort zone, ond dw i’n edrych ymlaen.”

Felly sut mae diwrnod o ymarfer yn edrych?

“Mewn diwrnod dw i’n trio gwneud dwy neu dair awr o ganu’r dydd. Mae lot o waith arall yn gallu mynd ymlaen wedyn fel dysgu geiriau a dysgu’r cyfieithiadau a phethau fel ‘na.

“Fel arfer 'wy’n gwneud awr fach, dished o de, awr fach arall, cerdded y ci, awr fach arall, bwyd a trio ei dorri fe lan fel ‘na.

"Ond mae’n bwysig ffeindio’r cydbwysedd mewn ffordd achos mae isie adeiladu’r stamina ond hefyd ddim blino’r llais yn ormodol.”

Yn ei helpu gyda’r hyfforddi mae’r cyfeilydd Michael Pollock a’r soprano, Rebecca Evans.

Dywedodd am ei hathrawes: “Pan mae hi’n demonstrato’r pethe ‘ma, dw i’n meddwl ‘My gosh, shwt mae hi’n gwneud hwn?’ A fi fan ‘na wedyn, wedi twymo lan ers awr yn trio swno’n dda a mae hi jest yn dod mewn o’r ardd fel ‘Just like this Jess...’. Mae hi’n amazing. Mae hi’n ffab.”

Disgrifiad,

Sgwrs gyda Jessica Robinson am ei thaith i gystadleuaeth Canwr y Byd 2023

Y gystadleuaeth

Mae tair gwobr ar gael yn y gystadleuaeth, sef y Brif Wobr a theitl ‘Canwr y Byd’, Gwobr y Gân a Gwobr y Gynulleidfa. Enillodd Bryn Terfel Wobr y Gân yn 1989 ond bryd hynny enw’r wobr oedd ‘Gwobr Lieder’.

Caiff perfformiadau ar gyfer y Brif Wobr eu perfformio gyda cherddorfa. Mae dwy gerddorfa yn rhan o’r gystadleuaeth eleni sef Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Fe fydd Jessica yn perfformio o leiaf ddwywaith gyda cherddorfa.

“Bydd gen i un perfformiad ar y dydd Sadwrn ac un perfformiad ar y dydd Sul. Ac os y bydda’ i’n ddigon ffodus i gyrraedd ffeinal fe fydd perfformiadau’r ffeinals ymlaen ddiwedd yr wythnos.”

Mae Gwobr y Gân yn cael ei rhoi am berfformiad personol o rai o ganeuon Lieder a chelfyddydol i gyfeiliant piano yn unig.

“Dw i’n meddwl mai’r uchafbwynt i mi fydd canu’n Gymraeg yn y gystadleuaeth y Song Prize – y gân gelf. Yn y gân gelf mae fe’n fwy intimate, dim ond chi a’r piano sydd ac mae gyda fi Llŷr Williams yn cyfeilio felly dw i mewn dwylo saff iawn. Fi methu aros i weithio gyda fe.”

Wrth i’r gystadleuaeth nesáu, beth sy’n mynd drwy feddwl Jessica?

“Dw i’n reali edrych ymlaen i jest gallu mynd mas ’na a gobeithio gwneud Cymru yn browd.”

Pob lwc, Jessica!

  • Bydd cystadleuaeth Canwr y Byd 2023 yn cael ei darlledu ar BBC Two Wales a BBC Four drwy gydol wythnos 11-18 o Fehefin.

  • Bydd pennod arbennig o Swyn y Sul gyda Jessica Robinson yn darlledu ar BBC Radio Cymru, dydd Sul 11 Mehefin am 10:00.