Menyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mae Caerdydd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad dros wythnos yn ôl ar Heol Dumballs, ger Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ym Mae Caerdydd.
Un cerbyd yn unig - Mini Cooper gwyn - oedd yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 13:40 ddydd Iau 19 Rhagfyr ar Heol Dumballs, ger maes parcio y tu ôl i orsaf heddlu'r Bae.
Fe gafodd y gyrrwr 79 oed ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ble blu farw noswyl Nadolig.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac yn apelio am wybodaeth gan dystion posib.