Mwy o fwydydd iach i fod ar gael mewn ysgolion dan gynlluniau newydd

Mae prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe allai mwy o lysiau a ffrwythau a llai o gig wedi'i brosesu fod ar gael i blant ysgol Cymru o dan gynlluniau newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i geisio cynnig mwy o fwydydd iach ar fwydlenni ysgolion cynradd.
Yn ôl yr ysgrifennydd addysg, Lynne Neagle, y nod yw "helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant Cymru" a chefnogi cynhyrchwyr Cymreig.
Mae'r llywodraeth yn dweud bod tystiolaeth yn dangos bod un o bob pedwar plentyn oedran dosbarth derbyn yn cael eu categoreiddio yn rhy drwm neu'n ordew.
Beth sydd ar y bwrdd gan Lywodraeth Cymru?
O leiaf dau ddogn o lysiau bob dydd, a phedwar math gwahanol o ffrwythau;
O leiaf un dogn o gig coch, ond ddim mwy na dau, a chyfyngu cig sydd wedi'i brosesu i unwaith yr wythnos;
Bwydydd sydd wedi'u ffrio'n ddwfn dim ond unwaith yr wythnos;
Pwdinau melys wedi'u cyfyngu i dair gwaith yr wythnos;
Dim ond dŵr plaen, llaeth plaen a diodydd plaen wedi'u seilio ar blanhigion;
Dim sudd ffrwythau, oherwydd eu bod yn cynnwys siwgr.

Dywedodd Beca Lyne-Pirkis nad oes rhaid i brydau maethlon fod yn "ffansi"
Mae'r darlithydd bwyd a'r deietegydd, Beca Lyne-Pirkis, yn croesawu'r rheolau newydd.
"I fi fel deietegydd plant, ac yn fam, beth sydd yn bwysig yw bod y prydau 'na yn addas i'r oedrannau, bo' nhw'n cael y maeth," meddai.
"I sawl plentyn ar draws Cymru hwn yw un o'r prydau gorau gewn nhw yn ystod y dydd, a chael y maeth addas."
Mae clywed barn y plant am ginio ysgol yn allweddol, meddai.
"Nhw sy'n mynd i gael y mwya' allan o fe wedyn.
"'Sdim rhaid i'r prydau 'ma fod yn rhywbeth ffansi, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhai sy'n mynd i roi'r egni a'r maeth iawn, ond yn bwysicach fyth bod y plant yn bwyta nhw."

Mae'n bwysig iawn i blant ddysgu am fwydydd iach, medd Ruth Heeley
Yn Ysgol Bryn Tabor yng Nghoedpoeth ger Wrecsam, mae'r plant yn dysgu am fwyd ac yn cael profi ffrwythau gwahanol am y tro cyntaf.
"Mae'n bwysig iawn iddyn nhw ddysgu am fwydydd iach - be' sydd yn dda iddyn nhw, ac i fagu bach o hyder i drio pethe gwahanol," meddai Ruth Heeley, sy'n gynorthwyydd dosbarth yn yr ysgol.
Mae'n dweud bod plant yn mynd at y bar bwyd iach sydd ar gael, ond yn cydnabod bod "bach o job ganddon ni er mwyn pwshio rhai ato fo".

Jack, Jensen, Mellie a Soffia fu'n rhoi eu barn nhw ar brydau ysgol
Mae rhai o ddisgyblion yr ysgol wedi bod yn blasu ffrwythau gwahanol, gyda Soffia yn dweud ei bod wedi "hoffi blasu mango"
Dywedodd Mellie ei bod yn hoff o gael llysiau gyda chyw iâr, a Jack yn dweud mai afal oedd ei hoff ffrwyth, ond taw ei hoff bryd cinio ysgol oedd "taten bob a bins".
Dewis Jensen oedd pizza "oherwydd mae o'n flasus".
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd11 Mai 2023
Mae cyfnod o ymgynghori ar y cynllun yn dechrau ddydd Mawrth ac yn para tan ddiwedd Gorffennaf.
"Rydyn ni am adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes ar waith i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at fwyd iach," meddai'r ysgrifennydd addysg, Lynne Neagle.
"Dyna pam dwi eisiau clywed gan rieni, athrawon, cyflenwyr a phobl ifanc.
"Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn greu safonau bwyd i ysgolion sy'n gweithio i bawb – gan gefnogi iechyd ein plant heddiw ac ar gyfer eu dyfodol."
Dywedodd Rachel Bath, sy'n ymgynghorydd iechyd y cyhoedd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod cryfhau'r rheolau yn "gam hanfodol i sicrhau bod bwyd ysgol yn cefnogi arferion bwyta'n iach gydol oes".