Morlo bach, ychydig ddyddiau oed, yn cael ei achub ym Mhorthcawl

Morlo bachFfynhonnell y llun, Tîm bad achub Porthcawl
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y morlo bach ei ddarganfod ar y creigiau ger gorsaf bad achub Porthcawl

  • Cyhoeddwyd

Mae morlo bach, sydd ychydig ddyddiau oed, a gafodd ei wahanu oddi wrth ei fam mewn storm wedi cael ei achub ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd tîm bad achub Porthcawl eu bod wedi darganfod y creadur ar y creigiau ger eu gorsaf.

Ar ôl cael ei achub gan y tîm, a gwirfoddolwyr British Divers Marine Life Rescue, cafodd y morlo ei symud i'r orsaf i'w asesu.

Mae'r morlo'n dioddef o ddiffyg maeth difrifol ac wedi dioddef anafiadau i'w esgyll blaen a'i ên, meddai'r tîm bad achub.

Morlo bachFfynhonnell y llun, Tîm bad achub Porthcawl

Mae bellach wedi cael ei drosglwyddo i'r RSPCA am driniaeth a bydd yn cael ei adsefydlu am rai misoedd cyn cael ei ryddhau'n ôl i'r gwyllt.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.