Tywysog Cymru yn siarad Cymraeg i nodi Dydd Gŵyl Dewi

Fe wnaeth Tywysog a Thywysoges Cymru ymweld â Phontypridd ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae Tywysog Cymru wedi cyflwyno ei neges gyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn dymuno "Dydd Gŵyl Dewi Hapus."
Fe wnaeth William recordio neges ar y cyfryngau cymdeithasol i nodi Mawrth 1.
Daw ei neges Gymraeg ar ôl iddo ymweld â Chymru gyda'i wraig Kate ddydd Mercher.
Fe aeth y ddau i Bontypridd gan ymweld â'r farchnad yno.
Er nad yw'n derbyn gwersi ffurfiol, mae William wedi bod yn dysgu ychydig o Gymraeg yn ddiweddar, ond nid oes cadarnhad pwy sy'n ei ddysgu, neu a ydyw'n derbyn gwersi mewn sefydliad.
Mae'r Tywysog William yn aml yn cyfarch pobl gyda 'chydig o eiriau Cymraeg, ond nid yw wedi siarad mewn brawddegau llawn yn gyhoeddus yn y gorffennol.
Fe gafodd y Brenin wersi Cymraeg tra ei fod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng Ebrill a Mehefin 1969.
Y Cenedlaetholwr Tedi Millward oedd ei athro, ond er gwaethaf gwahaniaethau amlwg y ddau ddyn, fe ddaethon nhw'n ffrindiau da.