Arallgyfeirio o'r fferm i'r gampfa yn Felin-fach

Campfa newydd Cattle StrengthFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gampfa newydd yn Felin-fach newydd agor

  • Cyhoeddwyd

Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf mae Rhys Jones, o Felin-fach yng Ngheredigion wedi trawsnewid ei yrfa.

Ar un adeg roedd Rhys yn chwarae rygbi yn broffesiynol i’r Gweilch, Castell-nedd a Llanymddyfri ond ei waith o ddydd i ddydd oedd helpu ei dad ar y fferm.

Mae ei deulu wedi bod yn ffermio da godro a defaid yn Nyffryn Aeron am oddeutu 80 mlynedd.

Yn 2015, penderfynodd agor campfa - Cattle Strength - ar ei fferm gyferbyn â'r sied odro ac mae e newydd agor campfa newydd.

Mae'n cydweithio ag elusen iechyd meddwl wedi iddyn nhw "gael colled yn y teulu" a dywed bod cadw'n ffit yn gwella iechyd meddwl nifer.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw dywedodd bod datblygu’r busnes wedi bod yn ffordd iddo arallgyfeirio o ffermio.

“O’n i moyn 'neud rhywbeth yn lle jest ffermio, doedd dim digon o waith gatre i fi ffermio yn llawn amser ac o’n i’n mwynhau ffitrwydd gymaint,” meddai.

“Felly o’n i’n meddwl trio cyfuno ffitrwydd gyda’r ffarm rhyw ffordd - doedd dim digon o arian yn y ffarm i fi ‘neud e’n llawn amser,” ychwanegodd.

“Odd e’n gyfle i drio diversifio bach felly penderfynais i ddechrau hyfforddi yn y gym ac agor campfa fel gym ffarm - nesaf at un o’r sieds godro.”

Bedair wythnos yn ôl, agorodd Rhys Cattle Srength 2.0, campfa newydd, bron chwe gwaith yn fwy na’r un gwreiddiol.

Mae 90% o bobl sy'n hyfforddi yno yn siaradwyr Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys wedi agor ei gampfa mewn adeilad gyferbyn â'r sied odro

Ei gleient cyntaf oedd ei blymwr. Dywedodd wedi iddo fe brofi canlyniadau ffitrwydd da, daeth gwraig ei blymwr a’i ffrindiau hi hefyd yn gleientiaid.

Parhaodd y busnes i dyfu ers hynny, esboniodd, a phan ddaeth y pandemig, gwelodd Rhys hwn fel cyfle i droi at hyfforddi ar-lein sydd hefyd wedi helpu twf Cattle Strength.

“O’n i’n 'neud lot o online coaching yn ystod Covid ac ers 'ny ma’r busnes jest 'di cadw tyfu.

“Yn amlwg wedyn o’n i ddim yn gallu ffermio cymaint achos ro’dd fy amser i gyd yn mynd i hyfforddi pobl yn y gym fach 'ma,” meddai.

Iechyd meddwl a ffermio yn 'broblem'

Mae ei fusnes yn cydweithio'n agos gyda sefydliad DPJ - elusen iechyd meddwl sy'n cefnogi rheini sy'n gweithio yn y byd amaethyddiaeth.

Dywedodd Rhys: “Rwy wastod 'di bod yn fwy angerddol am y gym, mae fe lot mwy cymdeithasol na ffermio.

“Ma' ffermio yn gallu bod yn unig a gyda ffermio, sdim dal faint o arian ti’ mynd i 'neud a ma’ fe gyd yn ddibynnol ar brisiau’r farchnad yn enwedig gyda godro.

"Ma'r elusen yn agos at fy nghalon i.

“Gethon ni golled yn y teulu blynyddoedd yn ôl a ry’ ni gyd yn gw'bod bod iechyd meddwl a ffermio yn broblem.

“Ma ffermio yn gallu bod yn unig iawn ac ma’ fe wedi cael ei brofi bod iechyd corfforol yn gallu gwella iechyd meddyliol person lot.

“A ma’ sawl person sy’n dod i’r gym yn dweud bod nhw’n sylwi ar yr effaith meddyliol yna ar ben gwella eu ffitrwydd nhw.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gampfa newydd yn cynnal amrywiaeth o sesiynau ffitrwydd gwahanol

Penderfynodd Rhys i "gymryd y plunge" a gweithio'n llawn amser gyda Cattle Strength dair blynedd yn ôl.

Erbyn heddiw, mae’r gampfa wedi datblygu yn fusnes teuluol gyda’i wraig Katie yn rhedeg yr ochr weinyddol.

“Ry’n ni 'di gwerthu ein da godro i gyd, dim ond defaid sydd gyda ni ar y fferm nawr.

“Yn y gampfa newydd ni’n 'neud bach o bopeth. O cross fit, hyrox, codi pwysau – a’r cynllun yn y dyfodol agos yw cynnal sesiynau ioga hefyd."

Bellach maen nhw’n cyflogi tri aelod o staff lleol yn llawn amser ac yn cynnig sesiynau ffitrwydd i blant, pobl ifanc ac oedolion.