Mam yn 'benderfynol' o ddysgu Cymraeg i'w merch yn Dubai

Dywedodd Elinor: "Fi 'di siarad 'da cymaint o Gymry fan hyn sy'n difaru bod eu rhieni nhw heb siarad Cymraeg gyda nhw yn blant"
- Cyhoeddwyd
Mae mam sy'n wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yn Dubai yn dweud ei bod yn "benderfynol" o drosglwyddo'r Gymraeg i'w merch.
Fe symudodd Elinor Davies Farn i Dubai bedair mlynedd yn ôl, ac mae'n dweud ei bod yn gwneud ymdrech ychwanegol i drochi ei merch yn niwylliant Cymru er ei bod ochr arall y byd.
"Mae'n bwysig i fi achos mae pobl wedi ymladd am yr iaith, dyw e ddim yn rhywbeth ni'n gallu cymryd yn ganiataol," meddai.
Pwysleisiodd fod yna le i wella o ran cefnogaeth i rieni y tu allan i Gymru i drosglwyddo'r iaith i'w plant.
'Gwerthfawrogi e mwy'
Er mai 14 mis oed yn unig yw ei merch, Ela, dywedodd ei bod eisoes yn siarad Cymraeg â hi yn ddyddiol.
"Pan oedd hi wedi cael ei geni, yn y munudau cyntaf 'nes i siarad Cymraeg gyda hi, yn syth, so nawr amser fi ddim yn siarad Cymraeg mae'n rili od," meddai.
Dywedodd ei bod yn aml yn dod ar draws pobl o bob cwr o'r byd yn Dubai, a'i bod wedi sylweddoli pwysigrwydd yr iaith "wrth esbonio i bobl o le ro'n i'n dod a pham mod i'n siarad Cymraeg".
"Pan ti'n byw tu hwnt i Gymru, ti'n gwerthfawrogi e mwy a ti'n darllen mwy am ein hanes ni."
Dywedodd ei bod yn manteisio ar gynnwys Cymraeg ar YouTube am nad oes modd iddi wylio Clic nac iPlayer yn y wlad.
"Ma' Cyw arno gyda ni bob dydd, ma' lot o sôn am screen time ond os ti'n defnyddio pethe fel'na mae e'n rhoi addysg.
"Ni'n cael awr o Cyw y dydd so mae hwnna wedi rili helpu," meddai.

Ela yn gwylio Cyw
Er bod deunydd digidol ar gael yn Gymraeg, dywedodd y byddai'n hoffi gweld mwy o gynnwys ar gael i bobl y tu hwnt i Gymru.
"Licen i gael mwy... yn sicr mae angen mwy o gefnogaeth," ychwanegodd.
Dywedodd bod gwarchodwr plant yn dod i helpu gydag Ela, a'i bod hithau wedi mentro i ddysgu ychydig o Gymraeg, er ei bod yn dod o Kenya.
"Ma' hi wedi dechrau gwylio Cyw gydag Ela, ac mae hi wedi dechrau canu caneuon Cymraeg... dyw hi heb hyd yn oed wedi bod yn Ewrop heb sôn am Gymru!"
Roedd Elinor yn cydnabod y gall ceisio dysgu'r iaith i Ela fynd yn anoddach wrth iddi dyfu'n hŷn, ond mae'n benderfynol o roi'r cyfle i Ela.

Elinor, Ela a'i rhieni
Gydag Elinor yn berchennog busnes Cymreig llwyddiannus, dywedodd fod y Gymraeg yn "fwy nag iaith, mae'n rhoi hunaniaeth".
"Fi 'di siarad 'da cymaint o Gymry fan hyn sy'n difaru bod eu rhieni nhw heb siarad Cymraeg gyda nhw yn blant.
"Fi'n credu achos bod gŵr fi o Kenya, mae ei hunaniaeth ef yn rili gryf, felly mae wedi annog fi i wthio fy hunaniaeth i hefyd fel bod Ela yn gwybod bod ganddi ddau.
"Fi mor benderfynol achos fi'n teimlo bod lot o bobl adref yn gallu siarad Cymraeg ond dy'n nhw ddim yn trosglwyddo fe, er bo' nhw'n byw yng Nghymru.
"Os dwi'n gallu fan hyn, mae'n esiampl iddyn nhw," meddai.

Dim ond tri mis oedd Ela pan aeth i'r Eisteddfod Genedlaethol llynedd
Ar ôl rhannu neges ar ei chyfrif Instagram yn sôn am ei phrofiad o ddysgu Cymraeg i Ela, dywedodd ei bod wedi synnu o weld yr ymateb.
"Oedd y gefnogaeth yn amazing, o'n i yn rili rili hapus, ac mae wedi rhoi wmff i fi wneud mwy nawr.
"Oedd e'n neis i weld bod lot o bobl yn neud e... ti'n teimlo bod cymuned yna."
Mae Elinor yn dychwelyd i Gymru i fynychu'r Eisteddfod yn flynyddol ac mae'n edrych ymlaen at fynd ag Ela gyda hi unwaith yn rhagor eleni.