'Anodd gadael, ond anoddach aros' wedi dinistr llifogydd

Paul ThomasFfynhonnell y llun, Paul Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Thomas o Ynys-y-bwl yn dweud na allai ddisgrifio'r pryder mae'n ei brofi bob gaeaf oherwydd y llifogydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sy'n wynebu'r posibilrwydd o adael ei gartref yn dweud y bydd hi'n "anodd iawn gadael", ond mae'n "anoddach fyth" i aros yno gan fod y stryd wedi'i heffeithio'n fawr gan lifogydd.

Mae Paul Thomas a'i deulu yn byw ar Deras Clydach, Ynys-y-bwl, ers dros 40 o flynyddoedd, yn un o'r 17 o dai y mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu eu prynu oherwydd risg llifogydd yr ardal.

Cafodd yr ardal ei tharo'n wael gan Storm Dennis yn 2020, a Storm Bert y llynedd, gyda llifogydd difrifol yn gadael ceir a strydoedd dan ddŵr.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydd trafodaethau'n dechrau gyda phreswylwyr y teras er mwyn ceisio cytuno ar bris i brynu'r holl eiddo.

'Anodd ei roi mewn geiriau'

Pum mlynedd yn ôl, roedd Ynys-y-bwl yn un o sawl ardal a gafodd eu taro gan Storm Dennis, gyda dŵr llifogydd yn cyrraedd dau fetr o uchder mewn rhai cartrefi.

Llynedd cafodd rhai mannau eu taro eto gan Storm Bert.

Ar Deras Clydach, mae'r awdurdodau wedi penderfynu nad yw amddiffynfeydd newydd yn bosib, ac fe fydd y cyngor nawr yn dechrau trafod prynu'r 16 o dai gan y preswylwyr.

Un sy'n byw ar y stryd ydy Paul Thomas, sy'n byw y drws nesaf i'w deulu ac wrth ei fodd yn cael eu gweld bob dydd.

"Dwi'n byw drws nesaf i fy wyrion - byddai'n dod adref bob dydd ac yn picio mewn i'w gweld nhw. Mae'n uchafbwynt i mi.

"Mae'n mynd i fod yn galed iawn, iawn i ni adael, ond yn anoddach i ni aros.

"Mae'n beth ofnadwy i'w brofi. Mae'n galed aros yn gryf weithiau.

"Mae'n hawdd i rywun ddweud i adael - ond 'dan ni methu", meddai ar Radio Wales.

LlifogyddFfynhonnell y llun, Paul Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Paul a'i deulu bopeth y tro diwethaf i'r llifogydd eu taro

Ond er y teimladau cryf am yr ardal, mae effaith tywydd garw yn cael ei deimlo'n fwy aml, meddai, gyda "phob gaeaf yr un fath" ers tro.

"'Dyn ni'n gwylio holl ragolygon y tywydd... ac yn mynd i'n gwely pan fydd y tywydd yn ddrwg gan feddwl tybed a fydden ni o gwmpas yn y bore.

"Dyna pa mor ddrwg y mae'n gallu bod", meddai.

Eglurodd Mr Thomas bod ei deulu wedi "colli popeth dros nos" pan darodd Storm Dennis.

"O'r llawr i'r nenfwd - gan wylio'r holl beth yn digwydd o flaen ein llygaid. Popeth rwyt ti wedi weithio amdano - wedi mynd mewn eiliad.

"Mae'n hunllef - a 'dyn ni bob amser yn gwybod fod y profiad rownd y gornel eto i ddod."

Amddiffynfeydd llifogydd yn 'anymarferol'

Yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, cafodd cannoedd o gartrefi a busnesau eu heffeithio gan lifogydd, gyda gwerth mis o law wedi disgyn mewn cyfnod o 48 awr.

Roedd galwadau am wella amddiffynfeydd ar Deras Clydach, ond mae'r awdurdodau wedi penderfynu nad yw'n ymarferol.

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf bod codi amddiffynfeydd newydd wedi cael eu hystyried yn anymarferol, a hynny yn ôl asesiad Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Andrew Morgan fod y sefyllfa yn unigryw, ac oherwydd hynny, yr unig ddewis yw prynu'r rhan fwyaf o'r eiddo.

"Rydym ni wedi bod yn onest gyda'r trigolion - dydyn ni methu adeiladu wal gwerth miliynau o bunnoedd, £8-9m o bosib.

"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dangos er y buddsoddi sylweddol, mae dal lefel o bryder.

"Rydym ni wedi buddsoddi dros £100m ers Storm Dennis, a hyd yn oed eleni wedi buddsoddi dros £8-9m i mewn i ddulliau atal llifogydd", meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Rydyn ni wedi bod yn cysylltu â phreswylwyr i drafod opsiynau ar gyfer y dyfodol.

"Oherwydd bod risg parhaus ac unigryw o lifogydd sylweddol yn y lleoliad, ac yn dilyn sgyrsiau â thrigolion, byddwn ni'n parhau â thrafodaethau i gael meddiant o'r 16 o dai yn Nheras Clydach.

"Rydyn ni'n diolch i drigolion am eu cydweithrediad parhaus, a hithau'n adeg arwyddocaol iawn iddyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig