Dyn yn yr ysbyty ar ôl achos o drywanu yn Aberfan

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 40 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl achos o drywanu ar Ffordd Aberfan brynhawn Sadwrn.
Mae dyn 45 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni niwed corfforol difrifol yn dilyn y digwyddiad.
Bu rhaid i'r dyn gafodd ei anafu fynd i Ysbyty'r Tywysog Siarl.
Mae wedi dioddef anafiadau difrifol ond dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n credu eu bod yn peryglu ei fywyd.
Ffordd Aberfan yw'r brif ffordd drwy Aberfan a chafodd ei chau am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jonathan Allen: "Mae'r digwyddiad hwn wedi achosi cryn bryder yn y gymuned leol.
"Gallaf gadarnhau ein bod wedi arestio rhywun yn fuan ar ôl y digwyddiad ac mae'r dyn sydd dan amheuaeth, sy'n adnabod y dioddefwr, nawr yn y ddalfa".
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw ac mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.