Gemau Olympaidd: Medal arian i'r nofiwr Matt Richards
![Matt Richards](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5bb9/live/79398300-4de0-11ef-aebc-6de4d31bf5cd.jpg)
- Cyhoeddwyd
Mae'r nofiwr Matt Richards wedi ennill medal arian yn ras dull rhydd 200m y dynion yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.
Daeth yn ail o drwch blewyn - 0.02 eiliad oedd y gwahaniaeth - i David Popovici o Romania.
Dyma'r fedal gyntaf i gael ei hennill gan athletwr o Gymru ym Mharis - a medal Olympaidd gyntaf Richards mewn ras unigol,
Fe greodd hanes yng Ngemau Tokyo yn 2021 wrth ennill medal aur, gyda’i gyd-Gymro Callum Jervis, yn y ras gyfnewid dull rhydd 4x200m.
Mae'n ychwanegu'r fedal at yr aur a enillodd pan fachodd deitl byd y llynedd yn y 200m dull rhydd.