Hel atgofion wrth i Rownd a Rownd ddathlu 30 mlynedd

Catrin Mara a Nia Cerys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Catrin Mara a finnau yn rhannu'r sgrin yng nghyfresi cyntaf Rownd a Rownd yn y 1990au

  • Cyhoeddwyd

Mae un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C yn dathlu carreg filltir yr wythnos hon a hithau'n 30 mlynedd ers y bennod gynta' un o Rownd a Rownd.

Gyda'r rhan fwyaf o'r ffilmio yn digwydd ar Ynys Môn, mae nifer o bobl ifanc yr ardal wedi cael cyfleon dros y blynyddoedd - finnau yn eu plith.

18 oed o'n i pan ges i gynnig rhan Toni yng nghyfresi cynta' Rownd a Rownd yng nghanol y 1990au.

Ar drothwy'r pen-blwydd, es i 'nôl i'r set ym Mhorthaethwy i ddal fyny gyda rhai o'r criw.

Un o'r rhai fues i'n rhannu sgrin efo nhw oedd Catrin Mara, oedd yn chwarae rhan Donna yn y cyfresi cynnar - cyn iddi ddychwelyd fel cymeriad hollol wahanol yn 2019, sef y brifathrawes Elen Edwards.

Catrin Mara
Disgrifiad o’r llun,

Mae dychwelyd i Rownd a Rownd "wedi bod yn brofiad grêt", medd Catrin Mara

"Nes i adael ar ôl dwy gyfres a mynd ffwrdd i'r coleg," esbonia Catrin Mara.

"Wedyn dod 'nôl a chael cyfnod byr yn sgriptio yma - o'dd hwnnw'n gyfnod braf iawn."

Dywedodd Catrin iddi gael cyfnod arall i ffwrdd ac yna "dod 'nôl eto wedyn fel cymeriad arall".

"Ma' hynny wedi bod yn brofiad grêt achos ges i dudalen wag - dim ond dipyn o nodiadau gan y cynhyrchwyr," meddai.

"Ond dwi 'di gallu dod ynghyd hefo'r sgript a mowldio cymeriad dwi'n hoff iawn ohoni."

Ychwanegodd fod y cyfnod wedi bod yn "hollol wahanol i'r tro cynta', achos bo' fi 'di aeddfedu lot, diolch byth - neu ella 'swn i'm 'di cael dod yn ôl!"

Emyr Prys Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emyr Prys Davies ei fod wedi cael gweithio hefo "pobl brofiadol, amazing - fel yr hen Dewi Pws a Dyfrig Topper"

15 oed oedd Emyr Prys Davies pan gychwynnodd y gyfres, ag yntau'n chwarae rhan Dylan ac yn rhannu ei amser rhwng y set a'r ysgol.

"O'dd o'n brilliant i ni - o'dda ni'n cael methu tua dau neu dri diwrnod o'r ysgol yr wythnos," meddai.

"O'dd gynnyn nhw diwtora ar y set i ni, ond o'dd o'n brofiad hollol wahanol i be' o'dd fy ffrindiau i'n ysgol yn mynd drwyddo fo."

Dywedodd Emyr eu bod nhw'n cael gweithio hefo "pobl brofiadol, amazing, fel yr hen Dewi Pws a Dyfrig Topper - 'da ni wedi colli'r ddau ohonyn nhw wedyn yn drist iawn".

"Ond o leia' dwi'n gallu d'eud 'mod i 'di cael bod yma ac wedi cael actio efo nhw. Dwi'n lwcus iawn."

Ychwanegodd fod "cael y cyfle i weithio o 15 oed yn mynd i helpu hefo hyder a dwi'n diolch yn fawr iawn am y cyfle ges i gan Rownd a Rownd".

Annes Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Annes Wyn fod Rownd a Rownd yn gyfres sy'n "apelio at y teulu cyfan"

Yn ôl Annes Wyn, un o gynhyrchwyr y gyfres, mae Rownd a Rownd wedi esblygu llawer ar hyd y 30 mlynedd ddiwetha'.

"Wna'th hi gychwyn fel cyfres i bobl ifanc, yn benodau byrion," meddai.

"Ond erbyn hyn, mae 'na straeon lot mwy hard hitting - mae'n gyfres sy'n apelio at y teulu cyfan."

'Erioed ddychmygu bod yma am gymaint'

Angharad Llwyd ydy'r aelod cast sydd wedi bod yno hira' erbyn hyn, a hithau'n portreadu cymeriad Sophie ers 1997.

"Mae 'di bod yn grêt cael chwarae cymeriad Sophie cyhyd," meddai.

"Nes i erioed ddychmygu baswn i yma am gymaint o amser.

"Ond ma' Sophie wedi priodi deirgwaith, ysgaru ddwywaith, cael tri o blant ac un llysfab.

"Mae hi 'di cwffio, caru a mwynhau ei hun ar hyd y blynyddoedd."

Angharad Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Llwyd ydy'r aelod cast sydd wedi bod yno hiraf erbyn hyn, gan bortreadu cymeriad Sophie ers 1997

Mae Angharad hefyd yn actio mam i'w merch go iawn - Gwenno Beech, sy'n chwarae rhan Mair yn y gyfres.

"Digwydd bod, roedd Sophie yn disgwyl babi'r union 'run pryd ag o'n i'n disgwyl Gwenno," meddai Angharad.

"Felly'r peth naturiol o'dd cael Gwenno i ddod i mewn i actio cymeriad babi Sophie, sef Mair.

"Ers ma' hi'n bwtan bach mae hi 'di bod ar y set yn fan hyn a dydy hi ddim yn gw'bod dim gwahanol, wrth gwrs.

"Ma' hi 'di setlo ac yn rhan o deulu mawr Rownd a Rownd."

Gwion Tegid
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwion Tegid wedi gweithio ar y gyfres fel actor, cyfarwyddwr, storïwr a sgriptiwr

Yn debyg i Catrin Mara, mae Gwion Tegid hefyd wedi cael profiadau tu hwnt i actio yn y gyfres.

"Ges i 18 mlynedd o berfformio fel Barry, felly yn ystod y cyfnod yna dwi 'di talu lot o ddiddordeb mewn petha'r tu ôl i'r camera," meddai.

"Ma' Rownd a Rownd yn gweithio'n agos ofnadwy fel tîm.

"Ella bod o'n wahanol i saethu drama, lle ma' pawb yn gorfod tynnu'i bwysau a chydweithio er mwyn cadw fyny efo'r amserlen.

"Felly dwi 'di dysgu lot wrth gydweithio'n agos efo pawb arall.

"Dwi 'di bod yn ffodus iawn, ma' Rondo 'di bod yn dda iawn efo fi'n rhoi cyfleon i mi gyfarwyddo, a chyfleon i mi storïo a sgriptio hefyd."

Cyfle i Toni ddychwelyd?!

Felly roedd rhaid gofyn, ag yntau'n sgriptio erbyn hyn... tybed oedd cyfle i 'nghymeriad i, Toni, ddychwelyd i Lanrafon ar ôl yr holl flynyddoedd?!

"Dwi'm yn siŵr am gael Toni'n ôl," oedd yr ateb.

"Ar ôl y ffordd wna'th hi adael y gyfres, dwi'm yn meddwl 'sa 'na lawer o groeso iddi!"

Wel ia, efallai nad oedd dwyn babi ac wedyn cael damwain car y ffordd orau o ffarwelio!

Ond parhau mae siwrne Rownd a Rownd yn sicr, wrth iddyn nhw edrych ymlaen at y bennod nesa' yn hanes y rhaglen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig