Gwaith adeiladu gorsaf HS2 i achosi 'trafferthion' i deithwyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r gwaith o adeiladu rheilffordd cyflym HS2 olygu "trafferthion mawr heb unrhyw fudd" i bobl sy’n teithio i Lundain o dde Cymru, yn ôl un AS.
Dywedodd Ruth Jones, AS dros Orllewin Casnewydd ac Islwyn, bod rhaid i weithredwyr trenau a Network Rail edrych i leihau’r effaith ar bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth o ddydd Sul ymlaen.
Ychwanegodd hefyd bod y sefyllfa wedi’i "rheoli yn wael".
Daw wrth i waith adeiladu ddechrau ar orsaf reilffrodd fwyaf y DU yng ngorllewin Llundain, a fydd yn golygu bydd trenau yn teithio i orsaf Euston yn hytrach na Paddington gan ychwanegu 15 munud i deithiau o dde Cymru.
Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth eu bod yn gweithio gyda HS2, Great Western Railway a Network Rail i leihau’r effaith ar deithwyr.
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2023
Bydd y gwaith o adeiladu'r orsaf yn effeithio ar wasanaethau tan 2030, ac mae disgwyl sawl cyfnod lle fydd teithwyr yn wynebu trafferthion.
Fe wnaeth Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer gadarnhau ddydd Gwener, na fydd Cymru yn cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth y DU o gynllun rheilffordd cyflym HS2 Lloegr.
Dywedodd Ruth Jones: "Dyw pobl ddim yn ymwybodol ohono, dyw fy etholwyr i ddim yn gwybod beth sy'n digwydd.
"Rwy'n deall yr angen am HS2, ond fy mhroblem i yw’r effaith ar ein llinell yn dod o dde Cymru sydd ddim yn mynd i fuddio pobl leol o gwbl."
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd ar benwythnosau neu dros nos gyda’r newidiadau cyntaf yn digwydd ar 17 Tachwedd pan na fydd trenau yn cyrraedd nac yn gadael gorsaf Paddington.
Yn hytrach, bydd gwasanaeth bob awr o dde Cymru i orsaf Euston Llundain, gyda'r un trefniadau ar waith rhwng 27 a 29 Rhagfyr.
Dywedodd GWR: "Mae adeiladu HS2 a Old Oak Common yn brosiectau blaenllaw ar gyfer dyfodol rhwydwaith rheilffyrdd y DU, ond ni ellir gwneud yr holl waith hwnnw heb effeithio ar deithwyr trên.
"Rydym yn canolbwyntio ar leihau'r effaith ar deithwyr ac rydym wedi gweithio gyda HS2, Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth i ddatblygu llwybrau a gwasanaethau eraill fel y gallant gyrraedd lle mae angen iddynt fynd."