'Ni ddylech chi orfod dysgu Lladin i ddarllen labeli colur'

- Cyhoeddwyd
Mae'r system o labelu cynhyrchion cosmetig yn ei gwneud hi'n anodd i bobl sy'n byw gydag alergeddau, yn ôl Becky Gittins, AS Llafur Dwyrain Clwyd.
Mae cwmnïau cosmetig yn rhestru cynhwysion ar labeli eu cynnyrch mewn Lladin – sy'n "broblem fawr" i nifer, yn ôl yr Aelod Seneddol.
Mae gan Becky Gittins alergedd i gnau ac felly mae'n gorfod bod yn wyliadwrus iawn gan ddarllen cynhwysion pob cynnyrch cosmetig.
Un o'i phryderon mawr yw'r cynhyrchion mae'n rhoi ar ei gwefusau. Gall cynnyrch sydd wedi ei labelu'n wael arwain at sioc anaffylactig.

"Mae'r labelu angen bod yn glir iawn," meddai Amy Loring sy'n artist colur
Yn ôl Amy Loring, sy'n artist colur a dylanwadwr, mae'n hanfodol bod cynhwysion wedi eu labelu'n glir.
Mae Amy yn dioddef o groen gorsensitif ac mae ei chyfrif Instagram yn rhoi cyngor i bobl ynghylch gofalu am groen ac am gynhyrchion cosmetig.
"Mae gennai groen hypersensitive ac mae'n anodd iawn pan chi'n cael ecsema ar eich wyneb - mae mor anghyfforddus.
"Ar rai adegau, fedrai ddim rhoi unrhyw beth ar fy nghroen oherwydd ei fod yn ymateb mor wael i ryw gynnyrch. Mae'r labelu angen bod yn glir iawn.
"Mae bod yn eglur yn hollbwysig. Mae'n anodd iawn fel cwsmer pan gewch chi rosacea neu breakouts a dwi mond yn sôn am alergeddau ysgafn - gall fod yn ddifrifol iawn."

"Mae llai na 5% o'n pobl ifanc yn dysgu Lladin ar unrhyw lefel," medd Becky Gittins
Mae Becky Gittins yn dadlau na ddylai unrhyw un orfod pori mewn geiriadur Lladin er mwyn gwybod be sy'n ddiogel i ddefnyddio ar eich croen.
"Mae llai na 5% o'n pobl ifanc yn dysgu Lladin ar unrhyw lefel," meddai.
"Llai fyth fydd yn gallu adnabod rhai o'r termau sy'n cael eu defnyddio i ddisgrifio cynhwysion cynnyrch cosmetig. Mae hynny felly yn broblem fawr."
Dan y rheoliadau presennol, mae'n rhaid rhoi rhestr glir o gynhwysion cosmetig ar y pecyn.
Os nad oes pecyn allanol, bydd y label ar y cynnyrch ei hun. Os yw'r cynnyrch yn fach iawn, gellir rhestru'r cynhwysion ar daflen.
'Pryder bob dydd'
Mae cwmnïau yn defnyddio rhestr benodol o enwau ar gyfer cynhwysion - rhestr sy'n gyfarwydd ledled y byd.
Enw'r rhestr yma ydy The International Nomenclature of Cosmetic Products - neu INCI - mae'n defnyddio'r enwau Lladin neu'r enwau gwyddonol ar gyfer cynhwysion.
Er enghraifft, ar gyfer olew almonau melys fe welwch Prunus Amygdalus Dulcis, ac ar gyfer olew cneuen mwnci chi'n debygol o weld yr enw Arachis Hypogaea.
Mae rhai cwmnïau cosmetig yn cynnwys cyfieithiad Saesneg, ond does dim rhaid iddyn nhw wneud hynny.
Er bod y system yn sicrhau cysondeb ar draws y byd, mae Becky Gittins yn credu bod y drefn yn ormod o risg i nifer fawr o bobl.
Mewn ymweliad â sba yn ddiweddar, roedd angen i'r Aelod Seneddol chwilio'r termau Lladin ar-lein er mwyn gweld pa gynnyrch fydda hi'n gallu ei ddefnyddio.
"Ar ddiwrnod lle dwi fod i ymlacio, roedd y risg yn achosi gymaint o bryder. Mae'n anhygoel o anodd."
"Mae yna lefel o bryder o hyd, bob dydd," ychwanegodd.
"Mae angen i ni sicrhau bod gennym fyd llawer mwy cyfeillgar tuag at bobl sy'n byw gydag alergeddau."

"Mae byw gydag alergedd yn ddigon anodd, heb ychwanegu'r angen i ddysgu Lladin," meddai Rachel WIlliams
Mae Rachel Williams o Abertawe yn cytuno. Mae gan ei mab, Jacob, alergedd i gnau.
"Mae byw gydag alergedd yn ddigon anodd, heb ychwanegu'r angen i ddysgu Lladin," meddai.
"Dwi ddim yn gallu cofio'r holl enwau Lladin am bob math o gnau, neu rwy'n amau fy hun pan fyddai'n darllen y rhestr o gynhwysion.
"Mae hyn yn golygu bod rhaid i mi chwilio ar-lein bob tro rydw i'n prynu neu ddefnyddio cynnyrch.
"Mi fasen ni yn teimlo llawer mwy hyderus os byddent yn nodi'r prif gynhwysion sy'n beryglus i bobl gydag alergeddau yn y Saesneg hefyd."
Mae Rachel yn cynnig cymorth a chyngor i deuluoedd eraill ar ei thudalen Instagram.
"Rwy'n credu bod y Lladin yn risg i'r rhai sy'n dioddef o alergeddau," meddai.

Y syniad yw cael cysondeb ledled y byd, meddai Caroline Rainsford
Mae'r Gymdeithas Gosmetig, Toiletry a Perfumery (CTPA) yn amddiffyn y defnydd o enwau Lladin (INCI).
Yn ôl Caroline Rainsford, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth CTPA, mae'r rhestr INCI yn darparu iaith fyd-eang ar gyfer cynhwysion.
"Ar gyfer cynhwysion botaneg, rydym yn cyfeirio at y system Linnaean, sydd yn system ryngwladol, wyddonol ar gyfer enwi anifeiliaid a phlanhigion, ac mae llawer o'r enwau hynny yn deillio o'r Lladin.
"Y rheswm rydym yn cyfeirio at y system honno yw cael cysondeb ledled y byd.
"Gallaf weld pam y byddai rhai yn credu y bydda'n haws cael yr enw Saesneg ond os ydych ar wyliau ac yn gorfod edrych ar y rhestr cynhwysion, byddai angen i chi wybod enw'r planhigyn mewn nifer fawr o ieithoedd gwahanol.
"Ond, os yn defnyddio'r system INCI, mae angen cofio'r un enw Lladin."

Dywedodd Ms Rainsford: "Mae mwy o gysondeb ynghylch enwi cynhwysion yn wych inni wrth inni brynu cynnyrch, ond mae hefyd yn gwneud bywyd yn haws i gwmnïau."
Serch hynny, mae'r diwydiant wedi datblygu ap digidol i helpu defnyddwyr i ddeall y termau.
Mae'r ap COSMILE, yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am enwau cynhwysion drwy sganio'r label.
Bwriad yr ap ydy cynnig gwybodaeth ddibynadwy ynghylch y miloedd o gynhwysion gwahanol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae ein rheolau yn nodi bod angen i bob cynnyrch cosmetig gynnwys rhestr lawn o gynhwysion sydd wedi'u nodi yn glir ar label neu becyn y cynnyrch gan ddefnyddio enwau a dderbynnir yn gyffredinol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.