Cam mawr ymlaen i gynllun hen ysbyty meddwl Dinbych
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynlluniau i ailddatblygu safle hen ysbyty meddwl yn Ninbych gam mawr yn nes at gael eu gwireddu wedi i gorff rhanbarthol allweddol gymeradwyo'r achos busnes a chyllid ar eu cyfer.
Bydd Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cyfrannu £6.94m at waith dymchwel, adfer a bioamrywiaeth ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru.
Dywed y datblygwyr - cwmni Jones Bros, sydd â phencadlys yn Rhuthun - bod "dipyn o ffordd i fynd eto" cyn gallu dechrau gweithio ar y safle 53 erw ar gyrion y dref.
Mae'r prosiect gwerth £107m yn cynnwys adfer yr adeilad rhestredig Gradd II* sydd wedi dirywio'n sylweddol ers i'r claf olaf adael yn 1995.
Mae'n fwriad hefyd i godi cartrefi newydd, unedau masnachol a mannau gwyrdd cymunedol.
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2019
'Cyflogaeth a chartrefi i bobl leol'
"Ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd, bydd gwaith yn dechrau i drawsnewid y safle nodedig hwn fel y gall ddod yn rhan ganolog o'r gymuned eto, gan ddarparu cyflogaeth a chartrefi i bobl leol," dywedodd Huw Jones, perchennog Jones Bros.
Mae sicrhau cyllid y Cynllun Twf, meddai, "yn garreg filltir allweddol i ni" a'u bod "yn hyderus" bod modd "symud ymlaen i'r cam nesaf".
Fe fydd y datblygiad yn creu 360 o gyfleoedd prentisiaeth mewn canolfan hyfforddi "o'r radd flaenaf" ar y safle a70 o swyddi llawn-amser erbyn 2035.
Ychwanegodd Mr Jones: "Fel cwmni lleol rydym yn ymwybodol iawn o arwyddocâd y safle, a’r rhan y mae wedi chwarae yn hanes y dref.
"Mae’n haeddu cael ei adfer a dod yn ganolbwynt yn y gymuned hon unwaith eto."
Cafodd yr achos busnes llawn ei gymeradwyo gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, dan raglen Tir ac Eiddo'r cynllun twf.
Yn ôl arweinydd y rhaglen honno - ac arweinydd Cyngor Sir Ddinbych - y Cynghorydd Jason McLellan, fe fyddai adfywio'r adeilad hanesyddol a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r safle "o fudd gwirioneddol i Ddinbych".
Dywedodd bod y bwrdd "yn fodlon bod popeth yn ei le" ac y bydd trawsnewid y safle'n "dod â chartrefi a swyddi newydd y mae mawr eu hangen i'r dref a’r gymuned ehangach".
Fe wnaeth aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ddinbych gymeradwyo telerau ym mis Gorffennaf.
Mae'r broses yn mynd yn ei blaen nawr er mwyn sicrhau'r caniatâd cynllunio angenrheidiol sy'n galluogi'r gwaith i ddechrau.