AI yn y dosbarth: Y dyfodol neu fodd o dwyllo?

App Chat GPTFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae adolygiad diweddar gan Ofcom yn dangos fod canran uchel o bobl ifanc yn defnyddio AI, neu ddeallusrwydd artiffisial

  • Cyhoeddwyd

Gyda ffigyrau diweddar gan Ofcom yn dangos bod pedwar o bob pum plentyn rhwng 13 a 17 oed yn defnyddio AI, neu ddeallusrwydd artiffisial, ma’ rhai athrawon yn poeni am effaith hynny ar ysgolion.

Mae mwy a mwy o ddisgyblion yn defnyddio adnoddau fel ChatGPT i’w helpu gyda gwaith ysgol, ond oes ‘na berygl y gallai pethau fynd yn rhy bell?

Mae aelodau o gyngor digidol Ysgol Bryn Tawe yn dipyn o arbenigwyr ar AI.

Mae Steffan sydd ym mlwyddyn 7 yn dweud ei fod “wedi defnyddio Chat GPT i helpu fi gyda fy ngwaith" am ei “fod wedi safio llawer o amser”.

Mae Lucas hefyd yn defnyddio AI i helpu gyda gwaith ysgol gan ddweud “oherwydd bod fi wedi defnyddio ChatGPT fi wedi gweld ffrindie’ fi yn defnyddio fe”.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o disgyblion Ysgol Bro Tawe yn dweud bod AI yn helpu nhw gyda gwaith ysgol ac yn arbed lot o amser iddynt

Ar y llaw arall, mae Dominic a Lowri yn llawer llai parod i’w ddefnyddio.

Yn ôl Dominic, “mae yn gallu bod yn help ond mae’n technically yn cheato oherwydd ti ddim yn neud y gwaith gyd dy hunan”.

Ac er bod Lowri yn “credu bydd lot o bobl yn defnyddio fe, fi ishe i bobl fod yn ofalus”.

Posib bod 'AI wedi creu’r holl beth'

Yn ôl ymchwil gan Ofcom, mae bron i 80% o blant rhwng 13 a 17 oed yn defnyddio AI.

Wrth bod plant yn llawer mwy tebygol o’i ddefnyddio nag oedolion, mae ‘na bryder ymysg athrawon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nerys Vaughan yn poeni y bydd disgyblion yn defnyddio AI i gwblhau eu gwaith i gyd, yn hytrach na chynnig help llaw

Mae Nerys Vaughan yn bennaeth cynorthwyol yn Ysgol Bryn Tawe.

Er ei bod hi’n cyfaddef bod ‘na “fanteision i ddefnyddio unrhyw feddalwedd a dulliau digidol”, mae’n dweud taw’r “pryder yw gyda AI yw fydd falle o bosib disgybl yn rhoi darn o waith mewn lle mae AI wedi creu’r holl beth, yn hytrach na arwain y disgybl ar drywydd ar sut i ddatrys y broblem neu ateb y cwestiwn”.

Ai'r system asesu yw’r broblem?

Ond pa mor hawdd yw hi i athro neu athrawes weld neu adnabod arwyddion o ddefnydd AI yng ngwaith eu disgyblion?

Mae Osian George yn arweinydd Bagloriaeth Cymru a’n athro Technoleg Gwybodaeth yn Ysgol Bro Edern, ac yn ymddiddori yn nhechnoleg AI.

Disgrifiad o’r llun,

Credai'r athro technoleg gwybodaeth Osian George ei bod yn hawdd i athrawon weld y gwahaniaeth rhwng darn o waith disgybl ac AI

Yn ôl Osian, “mae’r athrawon yn bobl proffesiynol, ma’ nhw’n dod i nabod y ffordd mae disgybl yn ysgrifennu a pan maen nhw’n darllen rhywbeth sydd yn estron falle o beth bydde’ nhw’n disgwyl o’r disgybl yna, maen nhw’n gallu dweud yn syth”.

Gyda phryderon y gall disgyblion ddefnyddio AI i dwyllo mewn arholiadau neu gyda gwaith cwrs, mae Osian o’r farn taw nid y dechnoleg ei hun yw’r broblem.

“Os i ni’n gweld fod e'n broblem fod disgyblion yn defnyddio AI i dorri corneli, efallai mai’r system asesu yw’r broblem ac nid y dechnoleg."

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn barod yn edrych i mewn i fanteision AI yn yr ystafell ddosbarth, tra bod Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn “gweithio a phartneriaid ar draws y sector i ddatblygu cyngor a chefnogaeth i ysgolion”.