Llofruddiaeth Caerdydd: Chwilio am ddau sydd ar ffo
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 48 yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth ynglŷn â lleoliad dau ddyn all fod â chysylltiad â'r farwolaeth.
Cafodd Colin Richards, oedd yn dod o ardal Grangetown, ei ddarganfod yn anymwybodol mewn eiddo yn ardal Caerau ar 7 Ebrill, a bu farw o'i anafiadau yn ddiweddarach.
Er bod archwiliadau post mortem yn parhau, mae'r heddlu wedi cadarnhau bod Mr Richards wedi cael ei drywanu.
Mae swyddogion bellach yn chwilio am James O’Driscoll, 26, a Corey Gauci, 18 - y ddau o Gaerdydd - er mwyn eu holi ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Bydd gwobr o £10,000 yn cael ei gynnig gan Crimestoppers i unrhyw un sy'n rhannu gwybodaeth sy'n arwain at arestio'r ddau.
Mae swyddogion yn dweud wrth y cyhoedd i gysylltu gyda'r heddlu gyda gwybodaeth ac i beidio mynd yn agos at y ddau ddyn.
Yn y cyfamser, mae'r Heddlu wedi arestio dyn 33 oed o ardal Caerau, ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Cafodd ei arestio nos Fercher ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn ardal Heol-y-Berllan a Heol Trelái, Caerau, toc wedi 23:30 ar nos Sul, 7 Ebrill.
Er gwaethaf ymdrechion gweithwyr iechyd, bu farw Mr Richards o'i anafiadau, a cafodd ymchwiliad ei lansio i'w lofruddiaeth.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod Mr Richards yn "dad, taid, brawd, ewythr a chefnder cariadus, ac yn ddyn teulu".
Cafodd tair menyw - dwy 43 oed ac un 28 oed - eu harestio ar amheuaeth o lofruddio yn wreiddiol, ac maen nhw bellach wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Dywedodd yr uwch-arolygydd Darren George bod "ymholiadau helaeth yn parhau wrth iddyn nhw geisio deall beth yn union ddigwyddodd y noson honno".
"Er bod tri pherson eisoes wedi cael eu harestio, ry'n ni'n dal i chwilio am unigolion eraill all fod â chysylltiad â llofruddiaeth Colin Richards," meddai.
"Mae Jimmy O'Driscoll a Corey Gauci yn cael eu hamau o lofruddio, ac rydw i'n apelio am wybodaeth a chefnogaeth gan y gymuned leol i'n helpu ni ddod o hyd i'r ddau.
"Mae modd rhannu gwybodaeth ar-lein ac yn ddienw gyda Heddlu De Cymru neu drwy Crimestoppers."
Ychwanegodd bod teulu Mr Richards yn dal i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.