Pêl-bicl: Y gêm sydd ar gynnydd ac yn denu cannoedd i Gymru

- Cyhoeddwyd
Mae'n gamp sy'n tyfu'n gyflym yma yng Nghymru, ond tybed a ydych chi wedi dod ar draws pêl-bicl o'r blaen?
Gêm ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau yn ôl yn y 1960au ac sy'n debyg i denis ydy hi, ond gyda phadell yn lle raced.
Cymaint yw'r diddordeb yma bellach bod pencampwriaeth agored genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.
Yn debyg i denis, ond yn cael ei chwarae ar gwrt badminton, mae 'na elfennau o bêl-bicl sy'n gyfarwydd.
Y nod yw taro pêl blastig gyda phadell dros y rhwyd a'r cyntaf i 11 pwynt sy'n ennill.
Dros y pedwar diwrnod o gystadlu yng Nghaerdydd, bydd 850 o bobl yn chwarae ar 27 o gyrtiau am hyd at 12 awr y dydd - prawf o boblogrwydd y gamp
Mae'r gêm yn apelio i bobl o bob oed, meddai John Humphreys a Jan Bradley Milburn
Dywedodd Jan Bradley Milburn: "Hwyl ydy o dwi'n meddwl a ffitrwydd - da ni'm yn rhedeg fel fasa chi mewn gêm fatha tenis ond 'da ni efo ffrindiau da, dwi 'di cyfarfod â chymaint o bobl newydd cymysg o ran oedran."
Mae pêl-bicl yn un o'r campau sy'n tyfu gyflymaf ar draws y byd.
Mae'n gêm sy'n agored i bawb gyda phobl o 18 i dros 60 oed yn cystadlu yng Nghaerdydd dros y diwrnodau nesaf.

"Mae'n gêm sy'n apelio yn fawr iawn, iawn i bobl hŷn," medd John Humphreys o Ynys Môn.
"Er bod pobl ifanc yn chwarae'r gêm erbyn hyn - ac maen nhw yn dda iawn, yn rhy dda i ni - ond 'da ni'n cael cystadlaethau dros 50, dros 60, dros 70 a dwi'n siŵr rhyw ddydd bydd yna dros 80.
"Fel mae mwy a mwy yn mynd i'r oed yna, achos mae yna chwaraewyr bellach sydd dros eu 80 ac maen nhw yn dda iawn - ella 'di chwarae squash, badminton, tenis bwrdd ar hyd eu hoes a maen nhw yn symud i'r gêm yma ac maen nhw'n wych."

"Aim y gêm ydy dink dink dink," meddai Non Smith
Ond nid gem sidêt mo hon, fel y gall Non Smith o glwb Llangefni dystio.
"Achos bod y paddle yn wyneb carbon mae'r bêl yn teithio yn galed iawn - so i fi tenis oedd yng nghefndir i, so mae gen i fel mae coach Ynys Môn yn dweud drive, drive, drive.
"Ond aim y gêm ydy dink dink dink, so dwi'n ffeindio hwnna yn challenge i fi i dinkio - so just cael y bêl dros y net yw aim y gêm felly."

Mae pêl-bicl yn "grêt a dwi'n deud wrth bawb i neud o," meddai Nia Owen, sy'n chwarae gyda'i phartner Kelvin Jones
Yn bartneriaid ar y cwrt ac mewn bywyd mae Nia Owen a Kelvin Jones wedi dotio ar y gêm.
"Roedd Nia 'di bod yn chwarae ers mis Ionawr blwyddyn diwethaf - golff ydy sport cyntaf fi - a mis Mehefin blwyddyn diwethaf dyma fi'n deud wrth Nia 'swn i'm yn meindio dod efo chdi i chwarae", meddai Kelvin.
"A mae hi'n dweud sport fi 'di hwn!"

"Yn y diwedd nes i adael iddo fo ddod efo fi a mae'n hwyl," meddai Nia.
"['Da ni'n] nabod pobl o lefydd gwahanol - fatha weekend yma de... 'da ni'n cael gymaint o hwyl a cefnogi pan 'da ni di gorffen gêms ni, neu os 'da ni 'di colli, awn ni lawr i gefnogi'r genod a'r dynion eraill.
"Mae just yn grêt a dwi'n deud wrth bawb i neud o, i drio fo."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.