Pryder am oedi 'annheg' wrth brosesu ceisiadau lloches o Syria

Tuka Fattal
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tuka Fattal ymhlith bron i 8,000 o Syriaid sy'n aros am benderfyniad ar eu cais am loches yn y DU

  • Cyhoeddwyd

Mae galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailgychwyn prosesu ceisiadau am loches pobl o Syria wedi saith mis o oedi.

Cafodd ceisiadau am loches eu hatal dros dro ar ôl cwymp cyfundrefn yr Arlywydd Bashar al-Assad ym mis Rhagfyr y llynedd.

Mae sawl elusen gan gynnwys Asylum Justice yn dadlau bod y penderfyniad yn "annheg" ar filoedd o ffoaduriaid bregus.

Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn monitro datblygiadau yn Syria i weld ar ba sail y bydden nhw'n gorfod gwneud penderfyniadau ar geisiadau am loches yn y dyfodol.

Roedd 7,386 o Syriaid yn aros am benderfyniad ar eu cais am loches yn y DU erbyn diwedd mis Mawrth, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae Tuka Fattal, 47, yn un ohonyn nhw. Fe benderfynodd Ms Fattal a'i theulu ddianc Syria yn 2013 a setlo yn Nhwrci ar ôl i'w gŵr gael ei arestio a'i arteithio gan swyddogion cyfundrefn Assad.

Fe symudon nhw i'r DU y llynedd ar ôl iddi hi gael ei derbyn i astudio doethuriaeth peirianneg ym Mhrifysgol Caerwysg.

Ond cafodd y teulu ei symud eto gan y Swyddfa Gartref i Gaerdydd.

'Byth yn dymuno'r fath sefyllfa ar unrhyw un'

Bellach mae'r oedi yn achosi pryder mawr, meddai.

"Bysen ni byth yn dymuno'r fath sefyllfa ar unrhyw un. Mae'n anodd iawn."

Mae ei phlant yn astudio mewn ysgol yn y brifddinas erbyn hyn ond mae dyfodol y teulu yn ansicr.

"Deuddydd ar ôl i ni gyrraedd y wlad hon, fe benderfynodd y Swyddfa Gartref rhewi pob cais gan bobl o Syria.

"Saith mis yn ddiweddarach, rydyn ni dal yn yr un sefyllfa."

Strydoedd AleppoFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r difrod ar strydoedd Aleppo, Syria, yn amlwg o hyd wedi rhyfel cartref wnaeth barhau am 14 mlynedd

Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper, seibiant ar brosesu ceisiadau pobl o Syria ym mis Rhagfyr tra bod y Swyddfa Gartref yn "adolygu a monitro'r sefyllfa yn y wlad".

Penderfynodd sawl gwlad arall ar draws Ewrop i wneud yr un peth ar y pryd hefyd gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal.

Cafodd cyfundrefn Assad ei dymchwel gan wrthryfelwyr o dan arweiniad y grŵp Islamaidd, Hayat Tahrir al-Sham (HTS) ym mis Rhagfyr, wedi blynyddoedd o ryfel cartref.

Cafodd arweinydd HTS, Ahmad al-Sharaa ei enwi fel arlywydd dros dro Syria yn gynharach eleni, ond mae'r wlad yn dal i fod yn ansefydlog ac mae HTS yn cael ei adnabod fel grŵp terfysgol gan Lywodraeth y DU.

Fe ddisgynnodd nifer y ceisiadau am loches gan bobl o Syria 81% yn sgil y seibiant.

Awgrymodd y Blaid Geidwadol fod y rhan fwyaf o geisiadau am loches gan Syriaid yn ymwneud â'r bygythiad gan gyfundrefn Assad.

Kirran Lochhead-Strang
Disgrifiad o’r llun,

Mae ceisio am loches yn broses digon hir yn y lle cyntaf heb yr oedi ychwanegol, meddai Kirran Lochhead-Strang o ganolfan Oasis yng Nghaerdydd

"Rwy'n credu bod pob person eisiau dychwelyd i'w mam wlad ar ryw adeg ond dyw hynny ddim yn opsiwn i ni ar hyn o bryd achos mae Syria yn dal i fod yn le hynod o beryglus," ychwanegodd Ms Fattal.

"Rwy'n gobeithio y bydd Syria yn wlad sy'n ddiogel i fagu plant rhyw ddydd ond tan hynny, dwi eisiau aros yn y wlad hon fel bod gan fy mhlant hawliau sylfaenol, yn ddiogel ac yn gallu cael addysg a pharhau â'u bywydau mewn ffordd normal."

Ers cyrraedd Cymru, mae teulu Ms Fattal wedi derbyn cymorth gan nifer o fudiadau gwahanol gan gynnwys canolfan Oasis yng Nghaerdydd sy'n helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan, Kirran Lochhead-Strang, fod y seibiant ar geisiadau lloches Syriaid ar hyn o bryd yn cael effaith ar iechyd meddwl unigolion sy'n wynebu dyfodol ansicr iawn.

"Ni wedi gweld seibiau o'r blaen ond nid unrhyw beth yn debyg i hyd y saib yma. Pan roedd rhyfel yn Sudan, mi oedd yna saib ond fe barodd hynny am ryw fis," meddai.

"Mae'n ddealladwy pam eu bod nhw'n gwneud hyn, wrth gwrs, mae rhaid ail-ystyried y sefyllfa, a llunio gwybodaeth newydd ond mae hwn wedi bod yn gyfnod hynod o hir a dyw hi ddim wir yn parchu'r ffaith bod gan bob ceisiwr lloches sefyllfa unigryw a chefndir penodol ac mae'n rhaid ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun."

 Ruth Brown
Disgrifiad o’r llun,

Ruth Brown yw cyfarwyddwr cyfreithiol elusen Asylum Justice

Yn ôl Ruth Brown, cyfarwyddwr cyfreithiol Asylum Justice, mae "teimlad mawr o ofn" ymhlith nifer o bobl o Syria sydd wedi troi at yr elusen sy'n cynnig cymorth a chynrychiolaeth gyfreithiol i geiswyr lloches.

"Mae'r seibiant yn golygu bod yn rhaid i bobl aros am broses i ail-ddechrau, proses - hynny yw - sy'n gallu creu digon o oedi yn y lle cyntaf beth bynnag."

Dylai llywodraeth y DU gynnig diogelwch dyngarol i bobl o Syria tra bod y sefyllfa yn y wlad yn parhau'n ansefydlog, ychwanegodd Ms Brown.

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Rydyn ni'n deall bod hwn yn sefyllfa anarferol, ond yn amlwg mae datblygiadau yn Syria dros y misoedd diwethaf wedi newid y darlun o ran ceisiadau lloches.

"Fel nifer o wledydd eraill, rydyn ni wedi penderfynu rhoi saib ar benderfyniadau am loches gan bobl o Syria tra ein bod ni'n edrych i weld sut mae pethau'n datblygu o fewn y wlad."

Pynciau cysylltiedig