Carcharu dyn am ymosodiad rhywiol 'brawychus'

Benjamin GuiverFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Benjamin Guiver ei ddedfrydu i 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae cynnwys isod all beri gofid.

Mae dyn 35 oed o Sir Benfro wedi cael ei garcharu am ymosodiad rhywiol "brawychus" ar ddynes yn ei chartref.

Fe aeth Benjamin Guiver o Abergwaun i mewn i'r eiddo tra bo'r ddynes yn cysgu, a'i llusgo yn ôl i'r tŷ gerfydd ei gwallt wrth iddi geisio ffoi.

Dywedodd y Barnwr Geraint Walters ei bod hi’n "anodd dychmygu ymosodiad mwy creulon a brawychus".

Cafodd Guiver ei ddedfrydu i 20 mlynedd - 15 mlynedd yn y carchar a chyfnod estynedig o bum mlynedd ar drwydded.

Mae hefyd wedi cael gorchymyn oes sy'n ei atal rhag cysylltu â’r ddynes.

Ymosodiad didrugaredd

Cafodd yr ymosodiad ei ddisgrifio fel un didrugaredd, ac fe glywodd y llys sut y cafodd y dioddefwr ei churo dro ar ôl tro gan Guiver ar 24 Mai 2024.

Clywodd y llys fod y ddynes wedi syrthio i gysgu am 21:00 yn ei hystafell fyw wrth wylio'r teledu, tra'n aros i'w phartner ddychwelyd adref.

Deffrodd i weld Guiver - oedd yn ddieithryn iddi - yn penlinio wrth ei hochr, ac fe wnaeth hi geisio rhedeg i ffwrdd o’r tŷ.

Dilynodd Guiver y ddynes, fe orchuddiodd ei cheg wrth iddi geisio sgrechian am help, a’i chicio a'i thaflu i'r llawr y tu allan i'r tŷ.

Cafodd ei llusgo yn ôl i’r tŷ gerfydd ei gwallt, cyn i Guiver ymosod arni'n rhywiol.

Fe dagodd y dioddefwr, gan ddweud ei fod yn mynd i'w threisio a'i lladd.

Dim ond pan gyrhaeddodd ei phartner ac aelod arall o'r teulu adref y daeth yr ymosodiad i ben, pan gafodd Guiver ei erlid o'r tŷ.

Dywedodd y bargyfreithiwr Robin Rouch ar ran yr erlyniad bod y ddynes wedi dioddef nifer o anafiadau, gan gynnwys cleisiau helaeth i'w hwyneb a'i stumog.

'Bywyd cyfan wedi difetha'

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen i'r llys ar ran y dioddefwr, dywedodd fod yr ymosodiad wedi difetha ei bywyd bod ganddi ofn ei chysgod ei hun bellach.

"Dydw i ddim yn teimlo fel fi fy hun mwyach," meddai.

“Mae fy mywyd cyfan wedi’i ddifetha gan un person, mewn un noson.”

Wrth ddedfrydu Guiver dywedodd y Barnwr Geraint Walters: "Mae'n anodd dychmygu ymosodiad mwy creulon a brawychus ar rhywun yn eu cartref eu hunain".

Ychwanegodd fod y dioddefwr yn "iawn i ofni am ei bywyd" oherwydd fod Guiver wedi "colli pob rheswm a rheolaeth yn llwyr" o ganlyniad i gyffuriau ac alcohol.

Pynciau cysylltiedig