Rhybudd melyn am law i rannau o dde Cymru

Y rhybudd melynFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd melyn am law trwm wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Gwener a bore Sadwrn.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe fydd cyfnodau o law trwm yn gwneud amodau gyrru yn heriol ac yn gallu amharu ar drefniadau teithio.

Mae disgwyl i gawodydd droi'n law cyson yn ddiweddarach ddydd Gwener, a pharhau fore Sadwrn, gyda hyd at 75mm o law yn bosib ar dir uchel.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer siroedd Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Mynwy, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Daeth y rhybudd i rym am 14:00 ddydd Gwener, ac mae'n parhau nes 09:00 fore Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig