DAU fwyty ar restr goreuon y byd i gogydd o Fôn

Tomos Parry a'i ddîm Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd/World's 50 Best
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Parry a dau o'i dîm yn Las Vegas. Er mai The World's 50 Best Restaurants ydi enw'r wobr, maen nhw'n enwi'r 100 bwyty gorau

  • Cyhoeddwyd

Mae cael un lleoliad ar restr tai bwyta gorau’r byd yn dipyn o gamp, ond mae gan gogydd o Ynys Môn rŵan ddau...

Ac mae Tomos Parry newydd gael ei wobrwyo yn seremoni mawreddog The World’s 50 Best Restaurants yn yr UDA.

Fuodd o a’i dîm draw i Las Vegas i dderbyn eu gwobr a choginio i’r gwesteion - ar ôl fforio am gynnyrch lleol ym mynyddoedd California.

A'r hyn sy'n gwneud ei gamp yn fwy nodedig ydi ei fod ond wedi agor un o'i dai bwyta ers llai na blwyddyn.

Mae Mountain, sy'n cyfuno dylynwadau o Wlad y Basg a Chymru, nawr yn ymuno gyda'i dŷ bwyty Brat ar y rhestr.

Wrth siarad gyda Cymru Fyw o Las Vegas dywedodd Tomos: “Mae rhain fel Oscars y byd coginio ac mae bod ar y rhestr yn amazing i fusnes. Mae’n grêt i’r tîm, a dwi’n gallu dod yma a connectio efo lot o bobl sy'n y diwydiant ar draws y byd.”

Ffynhonnell y llun, The World's 50 Best Restaurants
Disgrifiad o’r llun,

Barbeciw a hanner i'r gwesteion yng ngwobrau 2024

O wleidyddiaeth i goginio

Mae llwybr Tomos i fod yn un o gogyddion gorau’r byd yn un anarferol.

Ar ôl astudio Lefel A yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, aeth i wneud hanes a gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd. Ond tra'n fyfyriwr fe ddechreuodd weithio yn nhŷ bwyta Le Gallois yn y ddinas.

Gan ei fod yn mwynhau gweithio gyda’i ddwylo a choginio cymaint, fe benderfynodd barhau yn y diwydiant ar ôl graddio.

“Mewn ffordd tydi o ddim mor wahanol â hynny i hanes a gwleidyddiaeth,” meddai. “O’n i bob tro eisiau teithio a deall am bobl a’u hanes, a dwi rŵan yn gallu cyfarfod pobl o wledydd gwahanol a dysgu am ddiwylliant gwahanol.

“Mae’n rili exciting - a dwi hefyd wrth fy modd efo coginio wrth gwrs.”

Wrth ddysgu ei grefft yn Llundain, fe ddaeth i amlygrwydd fel cogydd ifanc addawol cyn agor Brat yn 2018.

Blas Cymreig

Ffynhonnell y llun, Getty/Washington Post
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Parry yn paratoi yng nghegin ei fwyty Mountain, a agorwyd yng Ngorffennaf 2023. Mae'n un o dri thŷ bwyta sydd ganddo yn Llundain ac mae'n paratoi i agor pop-up yn Sir Benfro eleni

Mae bwydydd lleol a gwreiddiau Cymreig Tomos yn amlwg yn ei dai bwyta - gan gynnwys y cynnyrch, a’r gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae.

Dywedodd: “Mae fy restaurants wedi cael eu dylanwadu gan Gymru - ac mae ‘na ychydig o Gymraeg ar ddiwedd y menu.

“Mae’n neis yma yn America gallu siarad am Gymru a pan dwi’n siarad efo pobl o ar draws y byd am influences fi, dwi bob tro yn deud mai Cymru ydi o.”

Dyma'r bedwaredd flwyddyn i Brat fod ar y rhestr ac mae Tomos wedi bod mewn tair seremoni flaenorol - yn Valencia, Llundain ac Antwerp.

Coginio i 100 yn Las Vegas

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Tomos gyda'i dîm yn Las Vegas

Eleni roedd o a saith o’i dîm draw yn Las Vegas ar gyfer yr ŵyl pum diwrnod nid yn unig i gasglu gwobrau ond hefyd i roi sgwrs i’r gwesteion a choginio i 100 o bobl yng nghinio lansio’r gwobrau.

A gan fod cynnyrch lleol mor bwysig iddo fe wnaeth o addasu ei fwydlen i adlewyrchu'r ardal - sydd ddim yn hawdd mewn anialwch.

“Efo restaurants fi mae’r produce i gyd yn dod o’r ardal leol - yng Nghymru a Lloegr. Achos mod i’n cwcio yn Las Vegas o'n i eisiau cynnyrch seasonal a lleol, ac mae’n anodd ffeindio fo yma," meddai.

“‘Da ni yng nghanol nunlle felly nesh i dreifio dwy awr i ffwrdd i fynyddoedd Los Angeles i chwilio am produce efo forager adnabyddus o'r enw Pascal (Baudar).

“Roedd ‘na lot o herbs gwyllt, ac mae’n amser da i gael berries a stone fruit fel cherries.

“Mae o’n byw yn ganol nunlle, mewn lle rili remote ac mae ‘na lot o brown bears a rattle snakes yno, felly ro’n i bach on edge!

Ac yntau'n paratoi i agor bwyty pop-up yn Sir Benfro fis Medi, dyna un broblem fydd o ddim yn ei hwynebu wrth chwilio am gynnyrch lleol yn y gorllewin gwyllt.

Pynciau cysylltiedig