Cwis Bob Dydd yn dychwelyd am bedwerydd tymor

Megan Llŷn ac Ameer Davies-RanaFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Megan Llŷn ac Ameer Davies-Rana yw cyflwynwyr Cwis Bob Dydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cwis ar ffurf ap sy'n cael ei gynhyrchu gan S4C yn dychwelyd am bedwerydd tymor wythnos nesaf.

Gwyliau i bedwar o bobl mewn chalet sgïo moethus yn Méribel yn Ffrainc fydd prif wobr Cwis Bob Dydd sy'n ailddechrau ddydd Llun 20 Mai.

Wrth ei lawnsio ym mis Hydref 2022, dywedodd y sianel bod y cwis yn ymgais i ehangu eu cyrhaeddiad tu hwnt i gynulleidfa teledu gonfensiynol.

Yn ôl S4C mae nifer dilynwyr y cwis bellach yn "bron i 20,000" sy'n bedair gwaith y nifer - 5,000 - oedd wedi cofrestru ar gyfer y tymor cyntaf.

Mae'r cwis yn rhedeg am 20 wythnos rhwng misoedd Mai a Hydref ac yn cael ei gyflwyno gan Megan Llŷn ac Ameer Rana-Davies.

Mae'n gosod 10 cwestiwn y dydd ond mae'r cwestiynau'n wahanol i bawb.

Y nod i'r cystadleuwyr yw i'w hateb yn gywir a hynny mor gyflym â phosib - mae'r sgôr yn dibynnu ar gyfuniad o'r ddwy elfen.

Mae bod ar frig y sgorfwrdd yn destun balchder ond trwy raffl mae'r brif wobr yn cael ei hennill.

Mae rhywun yn derbyn tocyn bob tro maen nhw'n cystadlu ar y cwis, ac felly mae'r siawns o ennill y wobr yn cynyddu po fwyaf maen nhw'n cystadlu.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan wedi i’r tymor orffen.

Pynciau cysylltiedig