Bachgen, 15, wedi marw ar ôl gwrthdrawiad Dydd San Steffan

Heol CwmafanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Preston Camps o'i anafiadau yn dilyn gwrthdrawiad beic modur ym Mhort Talbot ar 26 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 15 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad beic modur ar Ddydd San Steffan.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i wrthdrawiad a ddigwyddodd ar Heol Cwmafan, Port Talbot am tua 13:45 ar 26 Rhagfyr.

Dywedodd yr heddlu fod gyrrwr y beic, Preston Camps o Port Talbort, wedi marw o'i anafiadau, a bod ei deulu'n derbyn cefnogaeth arbenigol.

Roedd Preston yn ddisgybl yn Ysgol Gatholig St Joseph, ac fe fydd capel yr ysgol ar agor ddydd Iau a Gwener i bobl roi teyrngedau.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, gan apelio am luniau CCTV neu dashcam gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu oedd yn yr ardal ar y pryd.

Pynciau cysylltiedig