Rhybudd melyn am stormydd dros Gymru gyfan

Rhybudd melynFfynhonnell y llun, Y swyddfa dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r rhybudd i ben am 23:59 nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl stormydd o daranau a chawodydd trymion ar draws y wlad dydd Llun.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau fydd mewn grym rhwng 08:00 a 23:59.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai'r tywydd garw achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr.

Gallai dŵr llifogydd a mellt achosi difrod i rai adeiladau hefyd.

Mae disgwyl i rhwng 15-20mm o law ddisgyn yn yr ardaloedd dan sylw, gyda hyd at 40mm yn bosib mewn rhai mannau.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r wlad gyfan.

Rhybudd o law trwm yn y gogledd

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law trwm a allai achosi llifogydd ar draws gogledd Cymru rhwng 15:00 ddydd Llun a 09:00 fore Mawrth.

Gallai'r glaw achosi trafferthion i yrrwyr ac i bobl fydd yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r rhybudd hwnnw yn berthnasol i Sir Ddinbych, Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam.

Pynciau cysylltiedig