Kai Andrews yng ngharfan Cymru, ond dim Aaron Ramsey

Kai AndrewsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kai Andrews ar fenthyg yn Motherwell yn Yr Alban o Coventry City

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr canol cae 18 oed Coventry City, Kai Andrews wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer eu gemau cyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 yn erbyn Kazakhstan a Gogledd Macedonia.

Mae Andrews wedi chwarae i dîm dan-19 Cymru, ac ar y funud mae ar fenthyg gyda Motherwell yn Yr Alban ers mis Ionawr.

Mae wedi dechrau tair gêm yn Uwch Gynghrair Yr Alban, gan greu argraff yn y fuddugoliaeth yn erbyn Rangers yn gynharach yn y mis.

Un arall sy'n chwarae yn Yr Alban sydd yn y garfan yw ymosodwr Rangers Tom Lawrence - dyma'r tro cyntaf iddo fod yn y garfan ryngwladol ers 2021.

Un o'r rhesymau pam fod Andrews a Lawrence wedi eu cynnwys ydy oherwydd nad yw'r capten Aaron Ramsey ar gael ar ôl iddo ddioddef anaf arall i'w goes.

Roedd disgwyl i Ramsey ddychwelyd i'r garfan am y tro cyntaf ers mis Medi diwethaf, ond bu'n rhaid iddo adael y cae ar ddechrau'r ail hanner wrth i'w glwb Caerdydd golli yn erbyn Luton Town nos Fawrth.

Ethan Ampadu a Harry Wilson mewn sesiwn ymarfer gyda ChymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tydi Ethan Ampadu a Harry Wilson ddim ar gael oherwydd anafiadau

Bydd Cymru hefyd heb Harry Wilson ar gyfer y ddwy gêm ar ôl i iddo ddioddef anaf i'w droed tra'n chwarae i Fulham fis Ionawr.

Mae'r chwaraewr canol cae wedi cael llawdriniaeth ar yr anaf, sy'n golygu nad oes disgwyl iddo chwarae eto tan ganol Ebrill.

Ers i Craig Bellamy gael ei benodi'n rheolwr, mae Wilson wedi datblygu i fod yn un o chwaraewyr pwysicaf Cymru.

Fe ddechreuodd pob un o'r chwe gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd, gan sgorio pedair gôl.

Tydi Ethan Ampadu ddim ar gael chwaith oherwydd anaf i'w ben-glin.

Mae ei glwb Leeds United yn gobeithio y bydd ar gael i chwarae eto cyn diwedd y tymor ar ôl penderfynu nad oes angen llawdriniaeth arno.

Dau arall sy'n absennol ydy asgellwr Ipswich Town, Wes Burns ac amddiffynnwr Sheffield United, Rhys Norrington-Davies, ond mae chwaraewr canol cae Abertawe Ollie Cooper wedi gwella o anaf.

Rheolwr Cymru Craig Bellamy yn gwylio ei dîm yn chwarae'n erbyn MontenegroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tydi Craig Bellamy dal heb golli gêm fel rheolwr Cymru

Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch gyda gêm gartref yn erbyn Kazakhstan ddydd Sadwrn 22 Mawrth, cyn chwarae oddi cartref yng Ngogledd Macedonia dridiau'n ddiweddarach.

Y timau eraill yng Ngrŵp J ydy Gwlad Belg a Liechtenstein.

Bydd enillwyr y grwpiau yn cyrraedd Cwpan y Byd yn awtomatig - gyda'r gystadleuaeth i gael ei chynnal yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico - gyda'r timau sy'n gorffen yn ail yn chwarae yn y gemau ail-gyfle.

Tydi Bellamy dal heb golli gêm fel prif hyfforddwr Cymru, gan ennill dyrchafiad i Adran A Cynghrair y Cenhedloedd gyda thair buddugoliaeth a thair gêm gyfartal yn 2024.

Mae ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd hefyd yn golygu fod Cymru mwy neu lai eisoes yn saff o le yn y gemau ail-gyfle ar gyfer Cwpan y Byd.

Y nod nesaf i Bellamy yw cyrraedd Cwpan y Byd am y trydydd tro yn unig yn hanes Cymru.

Er iddo gael gyrfa lewyrchus fel chwaraewr, chafodd Bellamy erioed y cyfle i chwarae mewn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol.

Mi fydd o'n gobeithio gwireddu'r freuddwyd yna yn ei swydd gyntaf fel rheolwr.

Y garfan yn llawn

Gôl-geidwaid: Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Sheffield United), Karl Darlow (Leeds United)

Amddiffynnwyr: Ben Davies (Tottenham Hotspur), Joe Rodon (Leeds United), Chris Mepham (Sunderland, ar fenthyg o Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Connor Roberts (Burnley), Neco Williams (Nottingham Forest), Jay Dasilva (Coventry City)

Canol cae: Joe Allen (Abertawe), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Stade Rennais), Ollie Cooper (Abertawe), Kai Andrews (Motherwell, ar fenthyg o Coventry City), Sorba Thomas (Nantes, ar fenthyg o Huddersfield Town), David Brooks (Bournemouth)

Ymosodwyr: Kieffer Moore (Sheffield United), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Daniel James (Leeds United), Liam Cullen (Abertawe), Nathan Broadhead (Ipswich Town), Mark Harris (Rhydychen), Lewis Koumas (Stoke City, ar fenthyg o Lerpwl), Rabbi Matondo (Hannover 96, ar fenthyg o Rangers), Tom Lawrence (Rangers)