'Galw uchel' am therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru

Nia Davies.
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nia Davies oriau o therapi iaith a lleferydd ar ôl iddi gael strôc

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw am sicrhau bod mwy o therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru, ar ôl cynnydd sylweddol yn y galw am eu gwasanaethau.

Mae ymchwil Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yn awgrymu fod rhestrau aros yn mynd yn hirach.

Maen nhw am weld ffocws penodol ar bobl yn y system cyfiawnder ieuenctid sydd angen cymorth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod amseroedd aros wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf.

'Doedd neb 'na i roi help'

Yn sydyn iawn, ddwy flynedd a hanner yn ôl, fe gafodd Nia Davies strôc.

Bu'n ffodus iddi gael ei chludo yn syth i'r ysbyty o'i swydd fel athrawes yn Y Barri, ond bu'n rhaid iddi gael oriau o therapi iaith a lleferydd er mwyn ceisio gwella.

Ond fel Cymraes iaith gyntaf, dywedodd nad oedd yna fawr ar gael iddi hi trwy'r Gymraeg.

"Dim ond pump awr ges i, ac o'n i'n gweld e'n 'itha anodd achos weithiau o'dd y geiriau Cymraeg yn dod mas gyda fi, achos beth o'n i'n delio gyda fe.

"O ran hwnna o'dd e'n really anodd. Doedd neb 'na i roi help pan oedd ishe help arna i."

'Hollbwysig buddsoddi'n gynnar'

Mae profiad Nia Davies yn cyd-fynd â phroblemau cyflenwi sydd wedi'i amlygu mewn adroddiad gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd.

Mae'r adroddiad yn dangos fod rhestrau aros ar gyfer plant a phobl ifanc wedi cynyddu 31% ers 2019.

Ar gyfer oedolion, roedd y rhestr wedi codi 37%, tra bod nifer y bobl ag anghenion dysgu ychwanegol oedd yn defnyddio'r gwasanaeth wedi cynyddu 43%.

Dr Caroline Walters
Disgrifiad o’r llun,

"Ma' gynnon ni fwy o bobl yn byw gyda chyflyrau hirdymor," meddai Dr Caroline Walters

Yn ôl Dr Caroline Walters o Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd, mae cefnogi cleifion cyn bod eu cyflwr yn gwaethygu yn hollbwysig.

"Ni'n gwbod bod poblogaeth Cymru yn heneiddio. Ma' gynnon ni fwy o bobl yn byw gyda chyflyrau hirdymor.

"A ma' problemau cyfathrebu a llyncu yn gyffredin ymhlith cyflyrau hirdymor.

"Ni'n gwbod bod mwy o bobl yn y boblogaeth nawr gydag anghenion llyncu a chyfathrebu, a ma' hwnna'n golygu bod 'na fwy o alw am therapyddion lleferydd ac iaith.

"Ma' problemau llyncu yn gallu arwain at dagu, mae'n gallu arwain at niwmonia ac at dderbyniadau diangen i'r ysbyty.

"Felly mae'n hollbwysig ein bod hi'n buddsoddi'n gynnar fel bo' ni'n gallu sicrhau bod pobl yn gallu byw'n annibynnol, a ddim yn gorfod mynd i'r ysbyty os nad oes angen."

Ffion Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Roberts o Brifysgol Wrecsam yn ceisio mynd i'r afael â'r galw cynyddol am raddedigion

Ar hyn o bryd, dim ond prifysgolion Wrecsam a Met Caerdydd sy'n cynnig hyfforddiant yng Nghymru i therapyddion.

Ond does dim digon o raddedigion ar hyn o bryd i ateb y galw cynyddol.

Mae hyfforddwyr fel Ffion Roberts o Brifysgol Wrecsam yn ceisio mynd i'r afael â hynny.

"Ma' na alw i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n cael hyfforddiant," meddai.

"Yma yn Wrecsam 'da ni'n lwcus o gael llefydd penodedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg fel bo' ni'n gallu dechrau ateb y galw yna, a 'da ni angen nhw ar draws yr holl wasanaethau."

'Cydnabod bod galw uchel'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl allu cael mynediad at wasanaethau therapi lleferydd ac iaith, ac rydyn ni wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros a chryfhau a chadw'r gweithlu.

"Rydym yn cydnabod bod y galw yn uchel.

"Er gwaethaf hyn, mae cyfanswm yr amseroedd aros ar gyfer plant ac oedolion dros y targed 14 wythnos wedi dangos gwelliant o bron i 59% dros y 12 mis diwethaf.

"Bu gwelliant hefyd o 46% yn amseroedd aros plant o'i gymharu â'r targed estynedig o wyth wythnos.

"Mae lleoedd hyfforddi ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith yng Nghymru wedi cynyddu 12.2% yn y tair blynedd ddiwethaf."

Pynciau cysylltiedig