Cyhuddo dyn o geisio llofruddio yng Nghaerdydd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar gae gyferbyn â Heol y Gaer yn ardal Caerau nos Fercher
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 39 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar gae gyferbyn â Heol y Gaer yn ardal Caerau ychydig cyn hanner nos ddydd Mercher.
Mae dyn 32 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas wedi'r digwyddiad.
Mae disgwyl i Carl Gareth Newman, 39, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener ar gyhuddiad o geisio llofruddio.
Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.