Tîm Hado Cymru'n edrych ymlaen at y cyfle i 'herio'r goreuon'

Mae Cymru eisoes wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth Hado'r Byd yn China
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm Hado Cymru yn teithio i Coventry y penwythnos hwn i gystadlu yn y twrnamaint Cenhedloedd Cartref cyntaf erioed.
Yn ôl y 'War Pigs' - enw answyddogol y tîm - fe fydd y gystadleuaeth newydd yn gyfle i "herio'n hunain yn erbyn y goreuon".
Mae Hado yn gamp realiti estynedig (AR) sy'n cyfuno technoleg â symudiadau corfforol.
Mae Prif Swyddog Gweithredu E-Chwaraeon Cymru, Rhys Richardson yn rhan o'r tîm cenedlaethol ar hyn o bryd, ond mae'n gobeithio gweld "y genhedlaeth nesaf yn cymryd eu lle yn y garfan".
Beth yw Hado?
Mae chwaraewyr yn gwisgo penwisgoedd AR ac yn gwneud cyfres o symudiadau corfforol i daflu "peli egni" a chreu tarianau digidol.
Nod y timau yw taro ei gilydd gyda'r peli yn y byd AR - ond does dim peli go iawn yn eu dwylo.
Mae'r tariannau yn cael eu defnyddio i amddiffyn chwaraewyr rhag peli'r gwrthwynebwyr.
80 eiliad yw hyd un gêm ac mae'r gamp yn cael ei gymharu i 'dodgeball rhithiol'.

Mae Ieuan James (chwith) yn chwarae i Gymru ac yn gweithio yn Ysgol Cwm Rhymni
Dywedodd Rhys Richardson nad oedd llawer o ddiddordeb ymysg y cyhoedd pan sefydlwyd y tîm 'nôl yn 2024.
"Mi wnaeth E-Chwaraeon Cymru ddanfon neges i bobl ar draws y wlad yn gofyn pwy fase' hefo diddordeb i chwarae Hado dros Gymru," meddai.
"Ond doedd dim digon o ddiddordeb felly cymerais i'r rôl!"
'Edrych ymlaen at yr her'
Aelod arall o'r garfan yw Ieuan James, sydd hefyd yn gweithio fel aelod o staff cefnogol yn uned ymddygiad Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Mae Ieuan yn gobeithio gweld y gamp yn tyfu yn sydyn ac mae'n credu y gallai cystadlaethau fel y twrnamaint y penwythnos hwn gyfrannu at hynny.
"Ni'n edrych ymlaen at yr her y penwythnos yma. Bydd goreuon y wlad yno a ni'n gobeithio byddwn yn gallu cystadlu," meddai.
Ond esboniodd nad oes canolfan Hado yng Nghymru ar hyn o bryd, ac o ganlyniad mae'n rhaid iddo ef a'i gyd-chwaraewyr deithio i Coventry - 125 milltir i ffwrdd - bob penwythnos.

Mae Lloyd yn rhan o'r tîm ieuenctid - y 'War Piglets'
Er yn gamp gymharol newydd, mae Hado yn dechrau ymddangos mewn ysgolion ac yn denu dilyniant ymhlith pobl ifanc ledled y wlad.
Yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni mae nifer o ddisgyblion wedi bod yn datblygu eu sgiliau gyda'r tîm ieuenctid - y 'War Piglets'.
Mae'r ysgol bellach yn gobeithio y gallai llwyddiant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ddenu mwy o bobl i chwarae'r gamp.
Mae Lloyd, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, newydd ddechrau chwarae Hado ac yn meddwl fod y syniad o gyfuno gemau cyfrifiadurol a chwaraeon yn "rili cŵl".
Yn frawd iau i Ieuan James, mae wedi mwynhau cael ei gyflwyno i'r gamp gan ei frawd.
"Doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oedd e. Pan ges i'r neges yn dweud fy mod yn mynd i chwarae Hado doeddwn i ddim yn siŵr beth i ddisgwyl," meddai.
Bydd Cymru'n wynebu Lloegr a thimau eraill o'r cenhedloedd cartref yn Coventry ddydd Sul.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai
